1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drethi newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru? OAQ51405
Diolch i Suzy Davies am ei chwestiwn. Mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar y rhestr fer o gynigion treth posibl i Gymru, fel y nodwyd ar 3 Hydref. Rwy'n dal i fwriadu—
Diolch am eich ateb. O, mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn canolbwyntio. [Chwerthin.]
Rwy'n dal i fwriadu profi pwerau newydd Deddf Cymru 2014 yn ystod 2018.
O'r gorau. Wel, diolch am yr ateb hwnnw hefyd, gan ei fod yn rhoi rhywfaint o syniad i mi o ran yr amseru. Y mis diwethaf, ar ôl dadl ar dreth dwristiaeth bosibl yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, dywedodd yr aelod cabinet Llafur ar gyfer adfywio yno,
Fel deiliad portffolio twristiaeth y cabinet, byddwn yn dweud mai hwn yw'r lleiaf tebygol o opsiynau Llywodraeth Cymru ar gyfer treth newydd i gael ei groesawu ledled Cymru.
Ac aeth yn ei flaen i ddweud,
Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl o blaid y cynnig arall sef treth ar blastigau tafladwy.
Dywedodd arweinydd Llafur cyngor Abertawe heddiw ei fod yn ffafrio treth ar ofal cymdeithasol. Pan fo arweinwyr Llafur yn fy rhanbarth eisoes yn gwrthod y syniad o dreth dwristiaeth, oni fyddai'n syniad da arbed arian drwy beidio â datblygu'r syniad hwnnw a chanolbwyntio ar y tri opsiwn arall?
Lywydd, rwy'n falch iawn o weld bod gan unigolion ledled Cymru ddiddordeb yn y ddadl hon, ac mae'n ddiddorol gweld bod amrywiaeth o safbwyntiau i'w cael, a dyna'n union roeddem yn gobeithio y byddai'n digwydd drwy fwrw ymlaen â'r ddadl yn y ffordd y gwnaethom. Byddai wedi bod yn hawdd iawn i Lywodraeth Cymru fod wedi gweithredu fel y gwna Llywodraeth y DU ar faterion cyllidol drwy gadw popeth i'w hun a cheisio synnu pawb arall ar ôl gwneud penderfyniad. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ymgymryd â'n cyfrifoldebau cyllidol mewn ffordd hollol wahanol, i fod yn llawer mwy agored, i ymgysylltu mwy â phobl sydd â safbwyntiau. Rwy'n gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn a ddywed pobl ym mhob plaid ynglŷn â'r pedwar syniad gwahanol rydym wedi eu cyflwyno. Byddai arweinydd Abertawe yn llygad ei le i ddweud, o ran ymateb y cyhoedd, y bu mwy o gefnogaeth i'r dreth blastigau nag unrhyw un o'r eitemau eraill a roesom ar ein rhestr, ond nid yw hynny'n golygu nad oes diddordeb ym mhob un ohonynt, neu na ddylai'r ddadl barhau.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwneud yn union beth mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i ddweud—wedi cynnal trafodaeth agored ynglŷn â'r pwerau newydd yma, ac rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n cael y pwerau newydd hyn hefyd. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau yr amserlen, achos, o'r blaen, mae e wedi dweud wrth y Pwyllgor Cyllid, ac hefyd, wrth y Siambr, mai yn y flwyddyn newydd y bydd e'n penderfynu ar yr un dreth i fynd ymlaen? A yw e mewn sefyllfa nawr i fod yn fwy clir ynglŷn â beth yw'r 'flwyddyn newydd'? A ydym ni'n sôn am fis Ionawr, neu a ydy'r flwyddyn newydd yn ymestyn i'r Pasg, fel mae'n gallu ei wneud o bryd i'w gilydd gyda'r Llywodraeth?
Ac yn ail, i ddod yn ôl at y pwynt sylfaenol hefyd, a gaf i ategu cefnogaeth Plaid Cymru i dreth ar blastig? Nid ydym ni'n dweud nad oes rhinweddau i rai o'r syniadau eraill ond rydym ni yn gweld fod hwn yn syniad mwy cyflawn wedi'i ddatblygu gyda chefnogaeth y cyhoedd, ac yn ymwneud â phroblem llygredd amlwg iawn sydd bellach yn rhywbeth sydd ar flaen meddyliau nifer fawr o'n dinasyddion ni. Wrth gwrs, nid yw'n trethu pobl ar gyfer y Llywodraeth; mae'n trethu pobl ar gyfer newid ymddygiad, sydd hefyd, yn fy marn i, yn egwyddor bwysig ar gyfer trethi newydd.
Diolch i Simon Thomas. Rydw i'n gallu cadarnhau ein bod ni yn dal i weithio ar yr amserlen. Rydw i eisiau bwrw ymlaen yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ond nid wyf yn fodlon jest bwrw ymlaen heb wneud y gwaith. Un o'r pethau sydd wedi newid dros y mis diwethaf yw beth ddywedodd y Canghellor yn y gyllideb yn ôl ym mis Tachwedd, achos mae diddordeb nawr gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym maes plastics hefyd. Rydw i jest eisiau cael mwy o wybodaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weld a oes rhywbeth yn y syniadau y maen nhw'n mynd i'w hystyried sy'n mynd i gael effaith ar y posibiliadau yr ydym ni yn bwrw ymlaen â nhw yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, fel y dywedodd Simon Thomas, mae'n faes pwysig iawn, a hwn yw'r un, fel y dywedais wrth Suzy Davies, y mae'r cyhoedd wedi dangos y diddordeb mwyaf ynddo, ac mae Simon Thomas yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod amcanion polisi gwahanol yn arwain at drethi gwahanol. Mae Deddf blastigau yn ymwneud â dylanwadu ar ymddygiad pobl, mae gan drethi eraill fwy o ddiddordeb mewn codi refeniw. Nid oes yr un ysgogiad yn sail i bob treth a dyna ran o'r hyn y bydd angen inni ei bwyso a'i fesur wrth wneud y dewis terfynol ynglŷn â'r dreth—y byddwn yn profi mecanweithiau Deddf Cymru drwy ei chynnwys yn y mecanweithiau newydd hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn wrth fy modd pan glywais yn y gyllideb ddrafft eich bod yn ystyried treth tir gwag. Mae hyn yn broblem go iawn yn fy etholaeth, gyda darnau bach o dir gael eu cadw am ddegawdau yn aml, safleoedd hen gapeli neu neuaddau gweithwyr fel arfer, er enghraifft, gyda chost rhoi camau ar waith yn rhwystr i awdurdodau lleol. Yn ogystal â'r golled economaidd sy'n deillio o'r ffaith nad yw'r tir yn cael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol, yn aml iawn cedwir tir gwag mewn cyflwr hyll a gwrthgymdeithasol, a gall hyn gael effaith sy'n aml yn anodd ei mesur ar lesiant cymunedau. Felly, sut y byddwch yn ystyried hyn pan fyddwch yn ceisio datblygu'r syniad o dreth tir gwag fel cynnig ymarferol?
Wel, diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn pwysig a diddorol iawn. Golyga hynny, Lywydd, ein bod bellach wedi crybwyll y pedair treth a oedd ar y rhestr fer y prynhawn yma. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael cyfarfod defnyddiol iawn yn Nulyn ychydig dros wythnos yn ôl o ganlyniad i gydweithredu â'r Llywodraeth yn y Weriniaeth, lle roedd nifer o swyddogion uchel iawn yn eu Llywodraeth ar gael i sôn am y ffordd y mae eu treth tir gwag wedi cael ei datblygu. Roedd yn gyfarfod addysgiadol iawn ac yn un calonogol iawn hefyd. Dywedasant yn glir wrthyf nad diben eu hardoll tir gwag yw codi arian, ond cefnogi'r system gynllunio a phan fo gwaith galed wedi'i wneud i nodi darnau o dir, eu gwneud yn addas i'w datblygu, rhoi'r caniatadau angenrheidiol iddynt ac ati, sicrhau nad yw'r darnau hynny o dir wedyn yn segur ac yn gwneud dim. Ac maent yn teimlo bod y ddeddfwriaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn yn hynny o beth, ac felly'n gwneud yn union y math o bethau a amlinellwyd gan Vikki Howells y prynhawn yma.
Credaf y gallai treth tir gwag a osodwyd ac a strwythurwyd yn deg gynorthwyo i ysgogi datblygiad yn y Cymoedd, ac mae tai, wrth gwrs, yn un o'r pum maes blaenoriaeth yn ein cyhoeddiad 'Ffyniant i Bawb'. Er hynny, Lywydd, mae'r maes hwn hefyd wedi ei gymhlethu braidd gan y gyllideb ar 22 Tachwedd, gan fod y Canghellor wedi cyhoeddi ynddi ei fod wedi gofyn i Syr Oliver Letwin gadeirio adolygiad brys o'r bwlch rhwng rhoi caniatâd cynllunio ac adeiladu tai newydd yn Lloegr. Yn yr hyn a ddywedodd, dywedodd y Canghellor ei fod yntau hefyd yn fodlon ystyried 'ymyriadau uniongyrchol' pe bai eu hangen er mwyn sicrhau bod caniatâd cynllunio sy'n bodoli yn troi'n weithgarwch gwirioneddol ar lawr gwlad. Felly, yma eto, rydym yn gweithio i sicrhau ein bod wedi deall y gwaith a fydd yn mynd rhagddo yn Lloegr er mwyn gweld a yw'n cyd-fynd o gwbl â'r syniadau a drafodwyd gennym yma yng Nghymru. A chredaf fod treth tir gwag yn cyd-fynd yn dda iawn â'r set honno o bosibiliadau polisi sy'n datblygu nid yn unig yng Nghymru, ond yn amlwg, dros y ffin hefyd.