Bil Masnach Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:34, 6 Rhagfyr 2017

A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn medru dweud ar hyn o bryd, oni bai ein bod ni'n cael newidiadau yn y Mesur sydd wedi ei gyhoeddi—y Mesur Masnach yma—y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod cynnig cydsyniad deddfwriaethol? Mi oedd yr Ysgrifennydd Cabinet masnach yn Llundain wedi dweud eu bod nhw wedi cyflwyno rhai newidiadau i'r Mesur ers cyhoeddi'r drafft ym mis Hydref, ar ôl trafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. A ydyw e'n gallu dweud beth fyddai'r newidiadau hynny? A gan fod cytundeb y WTO mae e wedi cyfeirio ato fe yn gosod mas adrannau gwahanol ar lefelau gwahanol o Lywodraeth—er enghraifft, ar gyfer Llywodraeth ddatganoledig—a fyddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl feto mewn gwirionedd wrth bennu cynnwys yr adrannau perthnasol ar gyfer Cymru?