Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Lywydd, nid oes fawr ddim y gallaf ei ychwanegu at yr hyn a ddywedais yn gynharach ar y mater hwn. Rydym yn cael dadl ynglŷn â'r posibiliadau gwahanol sydd ar gael i Gymru. Mae croeso i farn unrhyw un sydd â barn, beth bynnag y bo, a byddwn yn eu hystyried wrth wneud ein penderfyniad. Byddwn yn ystyried barn y Celtic Manor. Mae Llywodraeth Cymru yn fuddsoddwr sylweddol iawn yn y Celtic Manor. Maent wedi derbyn miliynau lawer o bunnoedd mewn cymorth uniongyrchol gan drethdalwyr Cymru. Byddwn yn ystyried eu sylwadau, ynghyd â sylwadau pawb arall. Dyna yw diben cael dadl.