Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:03, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n derbyn bod gan Ysgrifennydd y Cabinet feddwl agored ac nad yw mewn sefyllfa heddiw i gyhoeddi unrhyw benderfyniadau terfynol, gan mai dyna yw holl ddiben y broses ymgynghori, ac ar ôl rhoi £22.5 miliwn i'r Celtic Manor, rwy'n derbyn ei fod yn awyddus i gael elw da ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, gobeithiaf y bydd hynny'n llywio ei benderfyniad yn y cyswllt hwn hefyd, gan fod Ian Edwards hefyd wedi dweud yn yr erthygl a ddyfynnaf y byddai

Ychwanegu costau ychwanegol at aros yng Nghymru yn cael effaith yr un mor niweidiol ar ddenu digwyddiadau busnes ag y byddai ar ddenu ymwelwyr hamdden. Mae sicrhau cynadleddau a chyfarfodydd cymdeithasau mawr yn sector cystadleuol iawn a byddai treth ychwanegol ar y miloedd o gynadleddwyr sy'n mynychu'r digwyddiadau hyn yn rhwystr sylweddol i'r bobl sy'n ystyried Cymru fel lleoliad.

Felly, yn amlwg, mae hwn yn fater hanfodol bwysig i'r holl sector lletygarwch yng Nghymru, a gorau po gyntaf y gallwn gyhoeddi nad ydym yn mynd i fwrw ymlaen â threth dwristiaeth fel y gallant ymlacio a chysgu'n dawel yn eu gwelyau.