Polisi Treth

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:15, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae'n rhaid i'r holl bolisïau gael eu hasesu am unrhyw risgiau y gallant eu hachosi. Yn fy marn i, nid y swm bach ymylol o arian ychwanegol y bydd pobl yn y sefyllfa honno yn ei dalu drwy'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru fydd yr ystyriaeth a fydd yn pennu a fyddant yn gwneud buddsoddiad o'r fath ai peidio. Mae nifer fawr iawn o resymau eraill pam y bydd cyrff yn penderfynu ymsefydlu yng Nghymru. Rwyf bob amser yn ceisio dadlau nad yw sicrhau mai'r unig beth a ddaw ag unrhyw un i Gymru yw'r ffaith ein bod yn rhad yn ffordd o ddenu pobl i fod yn rhan o'n heconomi yn y dyfodol.