Polisi Treth

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:14, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ymddangosai fod ateb Ysgrifennydd y Cabinet i drydydd cwestiwn Nick Ramsay yn gynharach, ynglŷn â gwneud i bobl gyfoethog dalu mwy, yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y gallai fod yn ei wneud gyda threth incwm, pan fydd ganddo bwerau dros hynny, nag ar dreth trafodiadau tir. Onid yw'n cydnabod bod eiddo masnachol mawr, yn amlach na pheidio, yn cael eu gosod i amryw o denantiaid llai eu maint, boed yn sefydliadau manwerthu, diwydiannol neu fasnachol, ac y bydd y rheini sy'n penderfynu a ydynt am ddatblygu datblygiad masnachol mawr yn penderfynu a ydynt am wneud hynny yng Nghaerdydd, neu yn hytrach, yn Birmingham, Reading neu Fryste? Onid yw'n cydnabod ei fod mewn perygl o golli'r datblygiad hwnnw drwy godi'r gyfradd premiwm hon o 6 y cant?