1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2017.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio ei phwerau trethiant sydd ar ddod? OAQ51416
Diolch i John Griffiths. Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo i sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn hollol barod am y cyfrifoldebau y bydd yn eu hysgwyddo o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Hefyd bydd angen gwasanaethau newydd gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi er mwyn cyflawni'r broses o ddatganoli treth incwm yn rhannol o Ebrill 2019.
Ysgrifennydd y Cabinet, dengys y llyfr The Spirit Level a llawer iawn o dystiolaeth arall fod gan bob un ohonom lawer i'w elwa o gymdeithas fwy cyfartal ym mhob ffordd. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos hon fod 400,000 yn rhagor o blant a 300,000 yn rhagor o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yn y DU erbyn hyn nag a oedd yn 2012-13. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant wedi ymddiswyddo yn un fflyd mewn protest, yn rhannol o leiaf, yn erbyn y bwlch rhwng y rhethreg a gweithredu a gwaith go iawn gan Lywodraeth y DU. Wrth inni aros am Lywodraeth Lafur ar gyfer y DU fel y gallwn greu Teyrnas Unedig fwy cyfartal, a allwch ddweud wrthym heddiw pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, pan fydd ganddi ei phwerau cyllidol newydd, i gyflwyno elfen fwy blaengar mewn perthynas â threthiant yng Nghymru, a gwlad fwy cyfartal?
Wel, diolch i John Griffiths. Mae ffigurau Sefydliad Rowntree, Lywydd, yn wirioneddol syfrdanol gan eu bod yn dangos bod baich cyni yn ein gwlad yn cael ei ysgwyddo gan y bobl sydd leiaf abl i'w gynnal, gan gynnwys—a chredaf fod hyn yn wirioneddol warthus—y nifer o blant yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig a fydd yn byw mewn tlodi yn y dyfodol o ganlyniad uniongyrchol i'r polisïau hynny. Nid casgliad Sefydliad Rowntree yn unig yw'r casgliad hwnnw, fe'i hategir gan Sefydliad Resolution, gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a chan eraill fel y dywedodd John Griffiths.
Mae cymdeithasau mwy cyfartal yn creu nifer enfawr o fanteision. Maent yn arwain at iechyd gwell, llai o droseddu, mae ganddynt lai o ofn troseddu ac efallai yn bwysicaf oll—a dyma pam fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd, y dyddiau hyn, yn cyhoeddi dogfennau sy'n galw am gymdeithasau mwy cyfartal—maent yn gwneud yn well yn economaidd hefyd. Dyna pam fod creu Cymru fwy cyfartal yn ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cymerasom gam bach iawn i'r cyfeiriad hwnnw eleni gyda'r ffordd rydym yn defnyddio ein posibiliadau mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir. Gall y ddau beth sicrhau bod camu ar yr ysgol eiddo yn haws yng Nghymru i bobl ar incwm cymedrol a chefnogi busnesau ar ben bach a chanolig y sbectrwm. Roedd yn gam bach, ond roedd yn symbolaidd bwysig, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ei gymryd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.