Llifogydd yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:06, 6 Rhagfyr 2017

Rydw i'n ddiolchgar am yr ymateb yna. Rydw i'n falch bod y trafodaethau'n digwydd. Rydw i'n ddiolchgar hefyd am yr arwyddion positif ddaeth gan yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Thrafnidiaeth ryw wythnos yn ôl ynglŷn â'r posibilrwydd o gymorth ar gyfer gwaith ar yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares. Mi fydd yna oblygiadau ariannol y tu hwnt i waith trwsio ffyrdd ac ati, ac mi fuaswn i, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth pan ddaw o. Ond yn fwy cyffredinol, mae llymder, wrth gwrs, a'r gwasgu sydd wedi bod drwy Lywodraeth Cymru ar gyllid llywodraeth leol drwyddi draw, yn ei gwneud hi'n anoddach i gynghorau adeiladu'r mathau o gronfeydd y byddan nhw, heb os, yn dymuno eu cael er mwyn gallu ymateb i faterion brys fel llifogydd neu faterion tebyg. A oes yna fwriad gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y posibilrwydd o greu rhyw fath o gronfa frys newydd, sy'n benodol yn ymateb i'r anhawster sydd yna gan gynghorau erbyn hyn i adeiladu'r math o gronfeydd angenrheidiol?