Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Wel, Llywydd, mae system gyda ni'n barod, ac ar y cyfan, rydw i'n meddwl bod y system yn gweithio. Pan fo pethau fel hyn yn digwydd, mae cynghorau lleol yn gallu dod at y Llywodraeth, ac mae cyfarfod yn y dyddiadur i hynny ddigwydd. Rydym yn cadw arian yn y reserves yma i helpu pan fo pethau fel hyn yn digwydd. Fel y dywedais i, fel Llywodraeth, rydym yn awyddus i weld os oes pethau rydym yn gallu eu gwneud i helpu yng nghyd-destun Ynys Môn ar hyn o bryd. Rydym yn gallu gwneud hynny o dan y rheolau sydd gyda ni'n barod, ac rydym yn awyddus i drio helpu yn y ffordd yna.