Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
A dweud y gwir, mae hyn i'w weld yn y cyfryngau drwy'r amser. Ac nid wyf yn dyfynnu; gwn eich bod wedi cwestiynu fy ystadegau mewn perthynas â hyn yn y gorffennol, ond mae i'w weld gyda phethau fel y BBC, y Guardian, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y New Statesman a'r Independent. Mae pob un ohonynt wedi ysgrifennu am hyn ac wedi beirniadu'r sefyllfa ar sawl achlysur, felly mae'r ystadegau a phopeth arall ar gael i'r cyhoedd.