Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch. Byddaf yn edrych eto ar y mater. Mae gennym nifer o raglenni ataliol ar waith mewn perthynas â nifer o'r materion a nodwyd gennych, gan gynnwys caethwasiaeth fodern, atal aflonyddu rhywiol yn y gweithlu a darpariaethau'r isafswm cyflog, fel y crybwyllais eisoes. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater eto, ond os oes gan yr Aelod unrhyw fanylion yr hoffai dynnu fy sylw atynt, byddai hynny o gymorth.