Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch. Ac rwy'n gwir obeithio y gwelwn ni'r cynnydd yma ar fyrder rŵan. Ac rwy'n diolch i chi am eich ymroddiad, ac yn gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa llawer gwell mewn ychydig fisoedd lawr y lein o'r fan hyn heddiw.
Ac mae angen i unrhyw ddeddfwriaeth gael cyllid yn gefn iddi, wrth gwrs, er mwyn gwir gyflawni ei photensial. Ond, unwaith eto, mae gen i bryder yn y fan hyn, ac mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi rhybuddio y bydd toriadau pellach i wasanaethau megis llochesi yn arwain at ganlyniadau andwyol i oroeswyr cam-drin, a all arwain at golli bywydau. A fedrwch chi weithredu, a gwneud yn siŵr na fydd yna dorri ar wasanaethau megis llochesi merched a phlant? O dan yr amgylchiadau, dyma ydy'r peth lleiaf y medr y Llywodraeth yma ei wneud.