Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:30, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedaf, nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau ar y sefyllfa cyn i mi fabwysiadu'r portffolio hwn. Ers bod yn y swydd, sef mis yn unig, rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd yn ymwneud ag, er enghraifft, hynt y canllawiau cydberthnasau iach, a deallaf y bydd y rheini'n barod yn y flwyddyn newydd. Rydym wrthi'n penodi'r cynghorydd cenedlaethol newydd, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn rhannau o hynny—unwaith eto, yn gynnar iawn ar ôl i mi fabwysiadu'r portffolio. Lansiwyd y canllawiau 'gofyn a gweithredu' yr wythnos diwethaf, a gallais wneud hynny mewn cyfarfod a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw gyda nifer o bobl a oedd wedi bod â diddordeb yn y canllawiau hynny, ac roeddem wedi cael trafodaeth ragarweiniol am hynny. Rwy'n sicr yn gweld ymrwymiad a phryder yr Aelod yn yr achos hwn, a gallaf eich sicrhau mai un o fy mlaenoriaethau wrth ymgymryd â'r portffolio hwn fydd sicrhau bod y Ddeddf mor arloesol ag y byddem eisiau iddi fod.