Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Yn sicr. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r gwahanol sefydliadau yng Nghymru i siarad ynglŷn â sut y mae'r strategaeth genedlaethol yn gweithio'n lleol a hefyd i nodi materion lleol sy'n ymwneud â chydgysylltu, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n gywir, a lle mae pwerau datganoledig a chyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn gorgyffwrdd, fel y gallwn wneud y gorau o'r pwerau hynny wrth fynd i'r afael â rhai o'r arferion arswydus a ddisgrifiwyd ganddo. Felly, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, ac os yw'r Aelod yn dymuno fy ngwahodd i weld unrhyw beth yn benodol, rwy'n hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw yn ogystal.