Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch. Ac yn olaf ar y thema hon mewn gwirionedd, trefnodd Haven of Light gynhadledd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy y cymerais ran ynddi ar 28 Hydref, gyda chynrychiolaeth yr heddlu, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol ac eraill yn rhoi cyflwyniadau. Dywedodd Byddin yr Iachawdwriaeth wrthym mai dioddefwyr Prydeinig oedd yn seithfed o'r 94 o genhedloedd roeddent yn gweithio gyda hwy, pobl a oedd yn tarddu o'r Deyrnas Unedig a'i gwledydd cyfansoddol, a oedd wedi cael eu twyllo ac yna eu caethiwo.
Felly, ar sail Cymru gyfan, ac yn yr achos hwn, ar sail ranbarthol, pa ystyriaeth rydych yn ei roi, nid yn unig i'r bobl sy'n cael eu masnachu o'r tu allan i Gymru a'r DU, ond i'r rhai sy'n cael eu twyllo a'u caethiwo i fywyd o gamfanteisio a chaethwasiaeth yng Nghymru a'r DU?