Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym broblem o hyd gyda meddiannu safleoedd anghyfreithlon, sy'n achosi gofid mawr i'r cymdogion o gwmpas y safleoedd hynny, oherwydd ni ddarperir cyfleusterau a seilwaith angenrheidiol ar eu cyfer. Mae'r broses o nodi safleoedd swyddogol sy'n briodol i ddenu Sipsiwn a Theithwyr mewn mannau y byddent yn dymuno setlo ynddynt am gyfnod, yn weddol araf o hyd. Felly, a allwch roi unrhyw wybodaeth bellach i ni ynglŷn â sut rydych yn asesu'r ymatebion hyn rydych yn eu cael gan awdurdodau lleol o ran sut y maent am weithredu'r Ddeddf hon?