Sipsiwn a Theithwyr

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:51, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ie. Mae gennym adolygiad blynyddol o gynnydd yr awdurdodau lleol ar hyn. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi ymateb i'r cais, ac mae canfyddiadau'r adolygiad cyntaf yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud ym mron pob ardal ar draws Cymru. Bydd adolygiad ffurfiol o'r canllawiau asesu llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei gynnal yn 2018, a bydd yn llywio'r meddwl ar gyfer y rownd nesaf o asesiadau ar ôl hynny. Rwy'n ymwybodol o nifer o faterion a amlygwyd mewn gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru. Rwy'n ymwybodol o 10 ardal ar hyn o bryd sydd wedi tynnu sylw at faterion penodol. Byddaf yn ymweld â phob un o'r ardaloedd hynny i wneud yn siŵr fy mod yn deall y materion a nodwyd i'r dim ac y gallwn weithio gyda'r cynghorau dan sylw i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu. Pan fydd pobl yn gwersylla ar safleoedd anfoddhaol ac amhenodol, yna yn amlwg nid yw hynny er budd pennaf y bobl yn y gwersylloedd, ac nid yw er budd pennaf unrhyw un o'r bobl sy'n darparu gwasanaethau neu sy'n byw o'u cwmpas ychwaith.