Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch, Lywydd. Mae caethwasiaeth fodern, yn amlwg, yn cael effaith ledled Cymru, ond mae yna fater gorllewin-dwyrain penodol yng ngogledd Cymru, lle mae masnachu pobl drwy borthladd Caergybi yn broblem enfawr. Collodd gogledd Cymru ei chydgysylltydd atal caethwasiaeth ar ôl i dair blynedd o gyllid ddod i ben, pan sefydlwyd elusen—Haven of Light—i gysylltu â phartneriaid statudol, y sector gwirfoddol, Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau lleol, eu swyddog arweiniol yn Ynys Môn ar fasnachu pobl, ac yn y blaen. Maent wedi nodi bod y sefyllfa'n gwaethygu. Nid oes tŷ diogel, canolfan dderbyn na chyfleusterau yng ngogledd Cymru, ac mae'r diffyg cydgysylltydd atal caethwasiaeth ar sail ranbarthol wedi creu bwlch amlwg y maent yn ei lenwi. Sut y byddwch yn ymgysylltu, nid yn unig yn genedlaethol, ond yn uniongyrchol â'r rhwydwaith o gyrff yng ngogledd Cymru sy'n gweithio yn y maes hwn ar hyn o bryd, i fynd i'r afael â'r hyn sydd, yn anffodus, yn broblem gynyddol?