Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth atal caethwasiaeth Cymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol a chanllawiau ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, a hefyd i ddarparu'r cymorth gorau posibl i oroeswyr. Mae aelodaeth y grŵp hwnnw'n cynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Diogelu Cymru, ac adrannau eraill o Lywodraeth y DU, sefydliadau academaidd, BAWSO a nifer o gyrff trydydd sector eraill. Rydym yn rhannu'r gwersi a ddysgir o bob rhan o Gymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, a Chomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol y DU, ac rydym yn dechrau ennyn llawer o gydnabyddiaeth i'r gwaith hwnnw. Ond bydd yr Aelod yn deall bod caethwasiaeth yn drosedd gymhleth iawn i'w hymchwilio a'i herlyn, ac mae rhoi'r ystod o fesurau ar waith a sicrhau bod adnoddau priodol ar eu cyfer yn gymhleth iawn.
Cododd yr Aelod fater penodol iawn nad wyf, yn anffodus, wedi ymdrin ag ef eto, gan fy mod yn newydd yn y swydd. Buaswn yn fwy na pharod i edrych ar fanylion y mater hwnnw, os yw'n dymuno ysgrifennu ataf yn ei gylch.