Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Drwy gynllun Cyflymu Cymru, rydym wedi cysylltu busnesau ledled Cymru â band eang cyflym iawn, ac mae ein cynllun taleb gwibgyswllt yn darparu hyd at £10,000 i fusnesau gael cysylltiad gwibgyswllt. Mae prosiect Airband hefyd wedi cysylltu oddeutu 2,000 eiddo ar ystadau diwydiannol ledled Cymru.