Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y ffaith y byddwch yn ymweld â fy etholaeth i sôn am y broses o gyflwyno Cyflymu Cymru yng nghefn gwlad Sir Ddinbych yn benodol, gan fod yr ystadegau cyfredol yn awgrymu, fel y gwyddoch, eu bod ar ei hôl hi gryn dipyn o ran cynnydd o gymharu â gweddill Cymru, gyda dim ond 84 y cant o'r eiddo wedi eu cysylltu o gymharu â 92.5 y cant yng ngweddill y wlad. Mae hynny'n effeithio ar fusnesau gwledig yn benodol, gyda llawer ohonynt eisoes yn wynebu anawsterau o ganlyniad i'w natur wledig o ran sicrhau bod eu nwyddau a'u gwasanaethau yn cyrraedd y farchnad. Rwy'n derbyn bod y cynllun taleb gwibgyswllt gennym ar waith, ond nid oes llawer o gyflenwyr gwasanaethau amgen yn gallu cyflenwi yn y mannau hynny ychwaith, felly beth rydych yn ei wneud i weithio gyda'r diwydiant i gynnig ateb mwy masnachol ymarferol er mwyn darparu'r cyfleoedd y gall cyflymder band eang cyflym iawn a gwibgyswllt eu cynnig i fusnesau yn y sefyllfaoedd hyn yn fy etholaeth i?