Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Rydym ni wedi cael adroddiad gan bwyllgor yn mynegi pryderon mawr dros weithredu'r Ddeddf—ei bod yn araf, neu fod rhan ohoni heb eu gweithredu o gwbl. Yr wythnos yma, rydw i wedi cael diweddariad ar y sefyllfa a dyma'r ffeithiau i chi: nid oes yna gynllun gweithredu dros flwyddyn wedi cyhoeddi'r strategaeth; ymddengys na chyhoeddwyd canllawiau yng nghyswllt strategaethau lleol eto; nid ydy'r grŵp arbenigol ar addysg am berthynas iach wedi cyhoeddi ei argymhellion—roedd y rheini i fod allan yn yr hydref; ymddengys na wnaed unrhyw waith ar y canllawiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch; ni chyhoeddwyd unrhyw ddangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd tuag at amcanion y Ddeddf; nid yw'r canllaw comisiynu statudol, a oedd i fod i'w gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni, ddim wedi cael ei gyhoeddi; mae'r ymgynghorydd cenedlaethol wedi ymddiswyddo, ac ni chafwyd un newydd eto. A fuasech chi'n cytuno mai'r unig beth sy'n torri tir newydd yn y fan hyn ydy'r raddfa ryfeddol o ddiffyg gweithredu yn y ddwy flynedd ers i'r sefydliad yma basio'r ddeddfwriaeth yma?