Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Gwnaf. Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru. Rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant amlasiantaethol, cynorthwyo dioddefwyr, a helpu i ddwyn cyflawnwyr y drosedd ffiaidd hon o flaen eu gwell.