Brexit

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:44, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, mae hwnnw'n un o'r pethau y buom yn ei drafod yn ein trefniadau parodrwydd Brexit, ac mae ein papurau, fel y bydd yr Aelod yn gwybod rwy'n siŵr, i gyd yn cyfeirio at fater gweithwyr mudol tymhorol ac elfennau pwysig eraill yn ein cymdeithas. Nid ydym yn cytuno â threfniadau cwota, ond pe bai trefniant o'r fath yn cael ei roi ar waith, byddem yn pwyso, wrth gwrs, am y trefniadau cwota gorau i Gymru er mwyn sicrhau bod pob un o'r cymunedau sy'n dibynnu ar weithwyr mudol pwysig iawn yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau gwerthfawr rydym yn gwybod eu bod yn eu darparu ar draws economi Cymru.