2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2017.
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr mudol yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer Brexit? OAQ51408
Mae gweithwyr o dramor yn cyfrannu'n aruthrol i economi a chymdeithas Cymru. Mae ein papur, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', yn amlinellu'r fframwaith ar gyfer mudo yn y dyfodol sy'n diwallu anghenion Cymru ac yn cefnogi camau cadarn i weithredu deddfwriaeth cyflogaeth sydd heb ei ddatganoli. Ategir y dull hwn gan ein cod ymarfer i atal camfanteisio ar gyfer cyflogaeth foesegol yn y gadwyn gyflenwi.
A gaf fi ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw? Ni waeth am ein safbwyntiau ar rinweddau Brexit, mae miloedd o weithwyr mudol yng Nghymru, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, sy'n gwneud gwaith pwysig ac yn haeddu eglurder llwyr wrth i ni drafod ein trefniadau yn y dyfodol gyda'r UE. A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen dechnegol ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, sy'n awgrymu cyfnod gras o ddwy flynedd ar ôl Brexit, fod diffyg eglurder o hyd, yn enwedig mewn perthynas â theuluoedd, sy'n destun gofid i'r bobl o Gymru sy'n gweithio yn yr UE, yn ogystal â dinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y DU? A fyddech yn cytuno hefyd fod hon yn risg economaidd ddiangen i les ein gwlad?
Yn wir. Credaf fod yr ansicrwydd parhaus yn gwbl ddiangen. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am gadarnhad o hawliau dinasyddion yr UE ers y refferendwm. Rydym yn ymwybodol iawn fod trefniadau Brexit yn achosi llawer o bryder i gymunedau mudol ledled Cymru ac rydym yn ceisio cysylltu â chymaint o'r grwpiau'r gymuned fudol, sefydliadau cymdeithasol a mecanweithiau cymorth eraill ag y gallwn er mwyn sicrhau ein bod yn gallu mynd ati i ymgysylltu â chymunedau i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo mor sefydlog â phosibl. Wrth gwrs, rydym yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y broses o wneud cais am statws preswylydd sefydlog ar gyfer dinasyddion yr UE yn y DU, yn ogystal â dinasyddion o Gymru sy'n gweithio yn yr UE, yn deg ac yn gymesur. Mae'n cael effaith anghymesur mewn rhai meysydd eraill o bwys gwirioneddol i sefydlogrwydd economaidd Cymru yn ogystal, gan gynnwys ymchwil pwysig iawn o safon fyd-eang, ac rwy'n bryderus iawn fod hwnnw'n cael ei effeithio gan ddiffyg statws preswylydd sefydlog ar gyfer mewnfudwyr o'r UE.
A all arweinydd y tŷ roi gwybod i mi a fu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrwyddedau gwaith tymhorol yn dilyn Brexit, ac wrth gwrs, wrth edrych ar drefniadau yn y dyfodol?
Ie, mae hwnnw'n un o'r pethau y buom yn ei drafod yn ein trefniadau parodrwydd Brexit, ac mae ein papurau, fel y bydd yr Aelod yn gwybod rwy'n siŵr, i gyd yn cyfeirio at fater gweithwyr mudol tymhorol ac elfennau pwysig eraill yn ein cymdeithas. Nid ydym yn cytuno â threfniadau cwota, ond pe bai trefniant o'r fath yn cael ei roi ar waith, byddem yn pwyso, wrth gwrs, am y trefniadau cwota gorau i Gymru er mwyn sicrhau bod pob un o'r cymunedau sy'n dibynnu ar weithwyr mudol pwysig iawn yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau gwerthfawr rydym yn gwybod eu bod yn eu darparu ar draws economi Cymru.