Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Ddydd Llun, 11 Rhagfyr byddwn ni'n cofio Llywelyn ap Gruffudd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf. Llywelyn oedd y cyntaf, wrth gwrs, i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru a thrwy gytundeb Trefaldwyn ym 1267 bu'n rhaid i Harri III dderbyn telerau a chydnabod tywysogaeth Llywelyn a hawl Cymru, i bob pwrpas, i fod yn wlad annibynnol. Fe gyflwynodd Llywelyn system drethu a gwasanaeth sifil i weinyddu’r wlad dan ei arweinyddiaeth. Ond nid oedd y drefn yma wrth fodd Edward I, wrth gwrs, a orfododd Llywelyn i ildio tir a chilio yn ôl i'w gadarnle yng Ngwynedd.
Ym Mawrth 1282 cychwynnodd gwrthryfel wrth i’r Cymry ymosod ar gastell Penarlâg yn sir y Fflint er mwyn adennill tiroedd coll. Ond mi ddaeth y gwrthryfel i ben chwe mis yn ddiweddarach gyda Llywelyn yn cael ei rannu oddi wrth ei fyddin o ryw 7,000 o ddynion ar 11 Rhagfyr a'i ladd mewn sgarmes ger Cilmeri gan Steffan de Frankton, un o filwyr Edward I. Anfonwyd ei ben i'r brenin yn Llundain, a'i gludo drwy strydoedd y ddinas i'w arddangos i'r bobl cyn ei adael i bydru ar bostyn haearn ger Tŵr Llundain.
O fewn misoedd, fe gollodd Gwynedd ei holl insignia brenhinol ac fe gamfeddiannwyd Cymru am y tro. Mi fyddaf i'n gwisgo iorwg ddydd Llun, ac mi fuaswn i'n annog pob un ohonoch chi i wisgo iorwg er cof am Llywelyn ap Gruffudd ac er mwyn datgan yn glir fod ysbryd annibynnol Llywelyn ein Llyw Olaf yn dal yn fyw.