Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Deallaf y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, a gwnaeth y pwynt hwnnw i mi yn ein cyfarfodydd preifat. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ailadrodd y prynhawn yma. Yn amlwg, nid yw'r mesurau a roddwyd ar waith a'r dadleuon a'r trafodaethau sydd wedi digwydd yn rhagdybio y bydd y cais cynllunio yn llwyddiannus, nac ychwaith yn rhagdybio y caiff y tir ei werthu. Nid oes unrhyw gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma yn rhagdybio ynglŷn â'r modd y cwblheir y broses hon.
Ysgrifennodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ataf yn hwyr brynhawn ddoe ynglŷn â chynnig Baglan a'r ystâd garchardai ehangach yng Nghymru. Maent wedi cadarnhau y byddai'r cyfleuster arfaethedig yn dal carcharorion categori C. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi disgrifio carchardai Caerdydd ac Abertawe fel carchardai derbyn ac maent hwy, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn rhagweld mai ychydig iawn o orgyffwrdd swyddogaethol a fydd gyda chynnig Baglan.
Byddaf yn ystyried ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder ymhellach, ond credaf fod gennym gyfrifoldeb i gynnal deialog agored ac eang â Gweinidogion y DU ynglŷn â'r agenda rheoli troseddwyr ehangach ac yn benodol, y cynnig presennol ar gyfer Baglan. Ac rwy'n addo, Ddirprwy Lywydd, y byddaf yn symud y ddeialog honno yn ei blaen.
Felly, gadewch i mi droi at y dull o weithredu y buaswn yn dymuno ei fabwysiadu fel Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes hwn. Awgrymodd David Rees, yn ei gyfraniad yn y ddadl hon, y dylid datganoli polisi cosbi i Gymru. Buaswn yn cytuno ag ef. Buaswn yn cytuno ag ef fod arnom angen polisi cyfiawnder yng Nghymru sy'n bolisi cyfannol, ac nid polisi ar gyfer carcharu pobl yn unig yn y ffordd a amlinellwyd gan Jenny Rathbone. Rwy'n gobeithio y byddem yn gweld polisi cyfiawnder fel rhan o'n polisi cyffredinol ar gyfer cymunedau diogel, er mwyn sicrhau bod pobl sydd wedi troseddu yn adsefydlu ac yn gallu byw eu bywydau fel rhan o'n cymunedau ar draws Cymru gyfan.
Hoffwn weld ystâd carchardai sy'n fodern, yn weithredol, yn gallu rhoi diogelwch a sicrwydd i garcharorion ac i'r gymuned ehangach; polisi carchardai nad yw'n seiliedig ar ddymuniad syml i gosbi a dial, ond polisi sy'n seiliedig ar gymunedau diogel; a dull cyfannol o gyfuno gwasanaethau megis addysg, sgiliau a gofal iechyd, sydd eisoes wedi'u datganoli.
Ar hyn o bryd, nid yw'r setliad datganoli presennol yn gwasanaethu Cymru'n dda. Mae'n golygu bod y modd y gweinyddwn y polisi cyfiawnder yn wael o gymharu â Lloegr a'r Alban. Nid yw'n cyflawni'r polisi sy'n diwallu anghenion Cymru. Gobeithiaf y bydd y comisiwn cyfiawnder a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn dechrau'r gwaith o greu ymagwedd strwythuredig tuag at bolisi cyfiawnder a fydd yn diwallu anghenion Cymru ar gyfer y dyfodol. Gobeithiaf y byddwn yn gallu parhau i ddwyn ynghyd yr holl wasanaethau cymunedol sydd eisoes yn gyfrifoldebau a ddatganolwyd i ni, gyda pholisi cyfiawnder a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen a symud oddi wrth ddadleuon eithaf hesb y gorffennol.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddechrau'r sgwrs hon. Rwyf am ddweud wrth yr Aelodau ei bod yn sgwrs gadarnhaol ac roedd yn sgwrs y gobeithiaf y gallwn ei symud ymlaen. Trafodwyd agenda eang, gan gynnwys troseddu ymhlith ieuenctid a menywod. Rwy'n gobeithio y gallwn, gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gytuno ar ffordd ymlaen yn y tymor byr a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a gwasanaethau heb eu datganoli yn gallu gweithio gyda'i gilydd mewn modd nad ydym wedi'i wneud yn y gorffennol o bosibl. Ar gyfer y dyfodol, gobeithiaf y byddwn yn gallu cael un polisi cyfiawnder ar gyfer Cymru a fydd yn bolisi cyfannol, ac yn un a fydd yn canolbwyntio ar y bobl a'r unigolion a'r cymunedau.
Felly, gadewch i mi ddweud hyn i orffen: mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth busnes a chymorth economaidd ar gyfer pobl Port Talbot ac mewn mannau eraill—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad ar hyn o bryd. Gwnaeth Dai Rees bwyntiau da: mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhy aml wedi troi ei chefn ar bobl yr ardal honno. Mae trydaneiddio a'r morlyn llanw yn enghreifftiau da o sut y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi troi ei chefn ar y rhan honno o'r wlad.
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnig yn agos at £1.5 miliwn i naw o gwmnïau yn yr ardal a £30 miliwn i Tata, a fydd o fudd uniongyrchol i'r gwaith ym Mhort Talbot. Mae cymunedau hefyd wedi elwa o £20 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys £11 miliwn ychwanegol o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Felly, mae angen i ni, Llywodraeth Cymru, a phobl Port Talbot ddeall beth y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno ei gynnig yn y dyfodol, ond rydym yn ymrwymo, ac rwy'n ymrwymo fel Ysgrifennydd Cabinet, Ddirprwy Lywydd, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o'r holl drafodaethau a gawn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ar hyn a materion eraill. Rwy'n addo y byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud datganiad pellach maes o law.