– Senedd Cymru am 4:10 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, sef dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar', a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau? Dyma'r ail ddadl i gael ei chynnal ers i'r Pwyllgor Deisebau gytuno i ystyried cyfeirio unrhyw ddeiseb sy'n casglu mwy na 5,000 o lofnodion ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r deisebwyr, a arweinir gan Victoria Griffiths, am wrthwynebu datblygu carchar mawr newydd, archgarchar fel y'i gelwir, ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ym Maglan, Port Talbot.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon, a'u llongyfarch ar gynnal ymgyrch angerddol a thrawiadol. Cofiaf ei fod yn achlysur bywiog, yn bendant, pan ddaeth y deisebwyr i'r Senedd i gyflwyno'r ddeiseb i'r pwyllgor yn ôl ym mis Hydref. Gwn fod y deisebwyr hefyd wedi cydweithio'n agos â'u Haelodau Cynulliad lleol ar y mater hwn, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o'r Aelodau am gyfrannu yn ystod y ddadl y prynhawn yma.
Casglodd y ddeiseb sydd o'n blaenau 8,791 o lofnodion gan ddefnyddio cyfuniad o wefan y Cynulliad a deiseb gan bapur newydd lleol. Mae hyn a nifer y rhai a ddaeth i'r Senedd yn dangos bod cryn dipyn o wrthwynebiad lleol i'r posibilrwydd o gael carchar ym Mhort Talbot, ac rwy'n siŵr nad yw hynny'n newyddion i unrhyw un yma heddiw. Mae'r deisebwyr wedi dweud wrth y pwyllgor fod ganddynt nifer o bryderon ynghylch argymhelliad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i adeiladu carchar ar y safle, ac felly, cyn i mi amlinellu'r rhain, efallai ei bod yn werth rhoi ychydig o gefndir y cynigion a'u statws ar hyn o bryd.
Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod pedwar safle posibl ar gyfer carchardai newydd yng Nghymru a Lloegr wedi'u nodi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cyn hyn, deallwn fod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr o 20 safle posibl yng Nghymru i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi datgan ei bod wedi cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o 20 safle, a bod Port Talbot wedi'i ddewis fel y safle posibl gorau ar gyfer adeiladu carchar categori C newydd yng Nghymru. O ganlyniad, Port Talbot oedd yr unig safle yng Nghymru a ddewiswyd ar gyfer bwrw ymlaen i wneud cais cynllunio. Yn yr un cyhoeddiad ym mis Mawrth 2017, nododd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar y pryd y byddai ystyriaethau ynglŷn â gwerth am arian a fforddiadwyedd yn rhan o benderfyniad terfynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â carchar newydd ar y safle.
Mewn atebion a roddwyd yn San Steffan ar y pwnc hwn ym mis Medi, nododd y Gweinidog carchardai fod Port Talbot wedi'i ddewis am nifer o resymau. Mae'r rhain yn cynnwys capasiti seilwaith lleol i gynnal y carchar a'r potensial ar gyfer manteision i'r gymuned leol. Mae'n amlwg o'r ddeiseb fod rhannau mawr o'r gymuned yn anghytuno â'r ddau ddatganiad. Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi datgan y byddai gan y carchar categori C arfaethedig gapasiti i ddal 1,600 o garcharorion pan fydd yn gwbl weithredol, er y deallaf na chadarnhawyd hyn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi datgan nad oes digon o leoedd carchar ar gael ar hyn o bryd ac yn benodol, nad oes digon o leoedd carchar categori C yn ne Cymru.
Yn eu hymateb i ohebiaeth gychwynnol y pwyllgor ynglŷn â'r ddeiseb, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn cais gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac wedi darparu rhestr o 20 safle posibl mewn ymateb i hynny. Hefyd, ailadroddodd y Llywodraeth mai mater i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw'r penderfyniad i fwrw ymlaen ai peidio ac y byddai unrhyw geisiadau cynllunio'n cael eu hystyried yn lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, fel y dywedais o'r blaen, mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru—sy'n berchen ar y tir dan sylw—i beidio â gwerthu i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder at ddibenion datblygu. Yn ystod trafodaeth flaenorol ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn ym mis Medi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd na chafwyd unrhyw gytundeb â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwerthu'r tir, ac nad oes unrhyw drafodaethau ynglŷn â'i werth wedi digwydd.
O gofio nad yw cyfiawnder yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ac mai mater i Lywodraeth y DU fydd penderfynu a ddylid bwrw ymlaen i ddatblygu carchar ai peidio, mater gwerthu'r tir fydd yn cael prif sylw'r Pwyllgor Deisebau wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog carchardai i roi gwybod iddo am y ddeiseb hon a'r ddadl heddiw. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau lleol am amlinellu barn y gymuned leol yn fwy manwl yn ystod eu cyfraniadau, felly rwyf am gyfyngu fy sylwadau pellach i'r pryderon a dynnwyd i sylw'r Pwyllgor Deisebau yn uniongyrchol.
Mae'r deisebwyr wedi amlinellu nifer o bryderon, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chapasiti Port Talbot a'r ardaloedd cyfagos i ddarparu ar gyfer carchar. Mae'r rhain yn cynnwys argaeledd gwasanaethau iechyd a chapasiti ffyrdd lleol yn ystod y gwaith o adeiladu'r carchar a phan ddaw'n weithredol. Mae'r deisebwyr hefyd wedi cwestiynu'r effaith y gallai ei chael ar lefelau cyflogaeth lleol a'r rhagolygon i bobl leol sy'n chwilio am swyddi. Deillia hyn o'r posibilrwydd y bydd y carchar yn gweithredu fel canolfan adsefydlu, gyda'r carcharorion o bosibl yn cael eu rhyddhau am gyfnodau cyfyngedig yn y dydd i fanteisio ar leoliadau hyfforddi ar gyfer profiad gwaith, ac mae'r deisebwyr yn ofni y bydd yn mynd â chyfleoedd oddi wrth bobl leol. Maent hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag argaeledd tai lleol, a allai fod o dan bwysau cynyddol os yw carcharorion yn dewis aros yn yr ardal ar ôl eu rhyddhau. Yn olaf, mae'r deisebwyr wedi nodi bod y tir a glustnodwyd yn ardal fenter ac yn ddarostyngedig, mae'n debyg, i gyfamod ar ei ddefnydd. Dyfynnwyd atodlenni i'r cyfamod sy'n datgan y dylid defnyddio'r tir at ddiben parc diwydiannol ac nid at ddibenion eraill.
Oherwydd cydnabyddiaeth ei bod yn bwysig bwrw ymlaen â'r ddadl hon mewn modd amserol, nid yw'r pwyllgor wedi cael amser i ymchwilio i unrhyw un o'r pryderon neu'r honiadau hyn yn fanwl ar hyn o bryd. Byddwn yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, rwy'n gobeithio y gallwn ystyried ymateb y deisebwyr i'r pwyntiau a godwyd heddiw a'r atebion a roddir. O ganlyniad, mae'r pwyllgor yn cyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heb ddod i gasgliadau na gwneud argymhellion mewn unrhyw gyfeiriad penodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, teimlwn fod hon yn ddadl bwysig i'w chael, ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i bawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, ac atebion i'r pryderon sydd ganddynt.
Cyn symud ymlaen at sylwedd y drafodaeth hon, roeddwn am roi canmoliaeth enfawr i grŵp ymgyrchu yn fy etholaeth, sydd wedi ei arwain gan y gymuned yn llwyr, am y gwaith y maent wedi'i wneud hyd yn hyn ar ddod â'r ddeiseb hon i'r Siambr. Gwn y bydd eu hymroddiad yn parhau y tu hwnt i heddiw i wneud yn siŵr fod gan Bort Talbot ffordd dda ymlaen, ac mae rhai o'r aelodau yn yr oriel y prynhawn yma.
Mae'r ddeiseb sy'n cael ei thrafod y prynhawn yma'n galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod cynigion y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ryddhau'r tir ar gyfer datblygu'r archgarchar. Cafodd hynny ei amlygu fel y prif ffocws gan David Rowlands, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, ond a gaf innau hefyd dynnu sylw at y ffaith fod y gwasanaethau cyhoeddus yr effeithir arnynt hefyd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, felly mae yna ail fater y gallech fod yn awyddus i'w ystyried mewn gwirionedd?
Cafodd nifer o'r dadleuon a leisir y prynhawn yma eu crybwyll yn ystod dadl Plaid Cymru ar 20 Medi, ac nid wyf am ymddiheuro am ailadrodd unrhyw un o'r rheini, gan eu bod yn greiddiol i'r rhesymau dros wrthod y cynnig hwn. Fodd bynnag, ers y dyddiad hwnnw, datgelwyd tystiolaeth bellach sy'n cefnogi ein galwadau yn y ddeiseb hon. Ceir dwy agwedd sydd angen ymdrin â hwy yn y ddadl hon: (1) priodoldeb y safle ar gyfer archgarchar, a (2) polisi cosbi Llywodraeth y DU a'r rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn ei gyflawni.
O ran y pwynt cyntaf, ceir nifer o resymau pam y mae'r safle hwn yn amhriodol. Yn gyntaf, mae mewn parth llifogydd C1, fel y crybwyllwyd eisoes, ac roedd yn barth llifogydd C2 pan nodwyd y safle gan Lywodraeth Cymru a'i roi i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel un lle ar y rhestr, er bod y meini prawf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud mewn gwirionedd, ar gyfer safleoedd addas, fod angen tir mewn cyflwr da heb bosibilrwydd mawr o lifogydd. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ofynnais i chi ynglŷn â hyn o'r blaen, a gofynnais pam ei fod wedi'i gynnwys yn y meini prawf. Cefais yr ateb nad mater i Lywodraeth Cymru yw pennu hynny ond mater i'r datblygwyr. Mae'n ddrwg gennyf, ond esgeuluso cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hynny. Ni ddylai'r safle fod wedi'i gynnwys mewn unrhyw restr a roddodd Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed yn awr, dylai gael ei dynnu'n ôl ar y sail honno, yn enwedig gan nad yw'r amodau ar y safle wedi newid.
Yn ail, mae'r safle yn yr ardal fenter—ardal fenter Glannau Port Talbot—fel y crybwyllwyd eisoes. Dylid ei defnyddio ar gyfer twf economaidd busnesau presennol a denu mewnfuddsoddiad a fyddai'n dwyn manteision economaidd pellach i'r gymuned. Gwn fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn honni y bydd carchar yn sicrhau manteision economaidd, ond mae ymchwil wedi dangos bod honiadau y bydd datblygu archgarchar yn creu manteision economaidd—gan gynnwys creu swyddi—yn methu ystyried costau cymdeithasol ehangach carcharu nifer fawr o garcharorion, ac nad yw niferoedd swyddi ynddynt eu hunain yn fesur cywir o dwf economaidd.
Hefyd, nid yw'r gwaith y nodwyd y byddai'n ei greu o reidrwydd yn mynd i fod o fudd i'r gymuned leol sy'n ffinio â'r ardal—mae hynny'n sicr yn wir yn yr achos hwn, oherwydd gwyddys bod Abertawe a Chaerdydd yn wynebu cau. Os byddant yn cau, bydd swyddi'r rheini'n trosglwyddo'n uniongyrchol i'r safle newydd hwn a holl waith y gadwyn gyflenwi sy'n bwydo i mewn iddo. Dyna'r realiti; dyna yw barn Llywodraeth y DU am garchardai Fictoraidd. Yn ogystal, mae ymchwil yn dangos y gallai cymunedau sy'n dod i gael eu hadnabod fel trefi carchar wynebu dirywiad economaidd ar fuddsoddiad. Rydym yn profi hynny, gydag un busnes yn paratoi i adael y dref os rhoddir caniatâd i adeiladu'r carchar. Felly, nid yw'r honiad y bydd y carchar yn gyfrwng i sicrhau twf economaidd ym Mhort Talbot yn wir o gwbl.
Yn drydydd, ceir mater y cyfamod ar y tir, a maen prawf arall a bennwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder pan oeddent yn gofyn am safleoedd oedd na ddylai fod ynghlwm wrth gyfamod. Efallai y bydd gan eraill fwy o amser i archwilio'r mater hwn, ond rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi edrych arno gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Prif Weinidog, a gallaf eich sicrhau nad yw'n mynd i ddiflannu.
Hoffwn dreulio ychydig mwy o amser yn awr ar yr ail ystyriaeth, oherwydd rhaid inni roi sylw o'r fath i unrhyw gynnig newydd ynghylch archgarchar—gallu'r polisi cosbi i leihau aildroseddu, gwella adsefydlu, a'r effaith ar y gwasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r uchelgais hwnnw. Unwaith eto, dengys nifer o adroddiadau ac ymchwil fod creu archgarchar yn methu cyflawni'r uchelgais hwnnw. Yn wir, mae'n gwneud y gwrthwyneb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae adeiladu bywydau di-drosedd yn ymwneud â chymdeithas fwy cyfartal. Mae a wnelo â thlodi, gofal iechyd, tai ac addysg. Mae a wnelo â charchardai sy'n ceisio meithrin newid hirdymor ac nid cyfadeilad carchar diwydiannol, sy'n tybio bod newid arwyddocaol yn dod o lenwi adeilad i'r ymylon â bodau dynol, fel pe baent yn boteli gwin a fydd yn aeddfedu dros amser pan gânt eu cau mewn tywyllwch ac oerfel. Gadewch i ni beidio â chefnogi agenda a ysgogir yn ariannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn hytrach, gadewch i ni ddarparu un i fynd i'r afael ag anghenion y gymdeithas.
Ysgrifennydd y Cabinet, ag ystyried y rôl sydd gan Lywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau i garcharorion, a yw'n bryd bellach i bolisi cosbi gael ei ddatganoli i Gymru? Efallai y dylech fod yn hyrwyddo'r agenda honno. Cytunaf â'r sylwadau a wnaed yn nadl Plaid Cymru—rwyf wedi newid fy meddwl, rwyf wedi dod i gytuno â'ch safbwynt chi—y dylid datganoli polisi cosbi o bosibl bellach. Ond pe bai'n cael ei ddatganoli, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried archgarchardai'n fodel da, heb sôn am adeiladu un ynghanol cymuned ar dystiolaeth mor wan? Mawr obeithiaf na fyddai'n gwneud hynny.
Lywydd, fe orffennaf gyda'r canlynol oherwydd gwelaf fod fy amser wedi dod i ben—mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ond rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben. Y prynhawn yma, bydd gofyn i ni bleidleisio i nodi'r ddeiseb, ond rwyf eisiau mwy na hynny mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru wrando ar y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb a gweithredu ar eu rhan. Dywedais ym mis Medi ei bod hi'n amlwg nad oes unrhyw gyfiawnder i Bort Talbot yn dod oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a gelwais ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfiawnder hwnnw drwy osod ein heconomi fel blaenoriaeth ac nid penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i arbed arian. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n eithaf syml: pan ddaw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ofyn am gael datblygu ar y tir hwnnw, dywedwch 'na'. Gwrandewch ar y deisebwyr: gall Port Talbot wneud yn well ac mae'n haeddu cymaint mwy.
Fel y gwyddoch, mae'r safle arfaethedig ym Maglan yn fy rhanbarth i, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y camau y bydd y ddwy Lywodraeth yn eu cymryd ar hyn nesaf. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad i'r ddadl ychydig wythnosau yn ôl, mae gennyf lai o amheuon ynghylch y cysyniad o'r safleoedd carchar mawr hyn am y rheswm a roddais y pryd hwnnw, sef, yn y bôn, eu cyfraddau adsefydlu gwell a'u cyfleusterau gwell ar gyfer carcharorion a'u hymwelwyr a staff o gymharu â'r carchardai hŷn. Ni fydd gennyf amser i drafod yn faith â chi ar hynny, ond credaf fod modd dadlau yn erbyn y datganiad a wnaethoch yn gynharach.
Rwyf eisoes wedi ymweld ag Abertawe a'r Parc ond ers y ddadl ddiwethaf rwyf wedi manteisio ar y cyfle i ymweld â charchar Berwyn yn Wrecsam i fy helpu i ddatblygu fy safbwyntiau ychydig ar hyn—pa un a yw'r math o garchar modern yr hyn y tybiwn ei fod ac a fyddai safle Baglan yn addas. Er fy mod yn derbyn yn llwyr y bydd hyn yn annhebygol o newid eu barn, rwy'n falch iawn fod tri o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau wedi cytuno i ddod gyda mi, cyn gynted ag y gallaf gytuno ar ddyddiad, i ymweld â charchar Berwyn er mwyn darganfod ychydig mwy drostynt eu hunain am y math o garchardai rydym yn sôn amdanynt yma.
Pan fyddwch yn gwneud ymweliadau fel hyn fel Aelod Cynulliad, rydych yn disgwyl gweld y sglein gorau neu waethaf ar yr hyn rydych yn ei weld, yn dibynnu pam eich bod yno. Rwy'n meddwl bod hyn yn rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei gydnabod o bosibl. Ac os ydych yn ddoeth, rydych yn cynnwys hynny'n ffactor yn eich argraffiadau. Ond er hynny, hoffwn ddiolch i'r rhai a gynhaliodd yr ymweliad am drafodaeth agored a gonest iawn pan oeddwn yno, er nad oes gan y cynlluniau ar gyfer de Cymru ddim i'w wneud â charchar Berwyn, a gobeithiaf y bydd y natur agored a ddangoswyd ganddynt yn cael ei ddangos tuag at unrhyw un sydd â diddordeb yn hyn.
Denodd y cwestiynau ynghylch beichiau posibl ar wasanaethau lleol a gweithio mewn partneriaeth atebion credadwy a oedd yn cyd-fynd ag atebion a roddodd Llywodraeth Cymru yn y Siambr yn flaenorol—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Nid oes gennyf lawer o amser. Byddwch yn weddol gyflym.
Un bach cyflym. Rwy'n gwerthfawrogi eich ymdrechion i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yng ngharchar Berwyn, ond mae hefyd yn deg dweud nad yw carchar Berwyn yn llawn. Felly, nid yw wedi profi peth o'r pwysau gwirioneddol sydd i ddod, yn enwedig pan fo gennym sefyllfa ar draws y DU yn yr ystâd carchardai lle y ceir problemau enfawr mewn carchardai, yn enwedig pan fyddant yn llawn. Fel y cyfryw, nid wyf yn credu bod carchar Berwyn wedi cyrraedd y sefyllfa eto'n hollol i roi manylion da i ni.
Nid yw'n llawn, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ond mae llawer o'r staff yno wedi cael profiad o weithio yn y math hwn o carchar yn flaenorol ac roeddent yn fy ateb ar sail y lleoedd roeddent wedi bod ynddynt yn flaenorol yn ogystal â'u profiad yng ngharchar Berwyn.
Fel rwy'n dweud, gofynnais y cwestiynau hynny ynglŷn â'r beichiau ar wasanaethau lleol, gan eu bod yn cyd-fynd â'r hyn a glywsom yn y ddadl gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n derbyn bod modd dadlau yn erbyn hynny hefyd. Ond cefais weld llety'r carcharorion ac ystod gyfan o gyfleusterau. Nid af i fanylu ynghylch yr ystod gyfan ohonynt. Roeddent yn drawiadol, fel y gallech ddisgwyl. Gwelais y ganolfan iechyd, a oedd yn arbennig o drawiadol, a gâi ei staffio a'i chefnogi gan y gwasanaeth carchardai eu hunain, nid gan y GIG, sy'n bwydo i mewn i'r cwestiynau ynglŷn â sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus gael eu heffeithio gan hyn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai'r rhyngweithio rhwng y staff, sy'n cynnwys llawer o staff benywaidd gyda llaw, oedd y peth mwyaf trawiadol am yr ymweliad. Mae'n ddiwylliant hollol wahanol, yn seiliedig ar urddas a pharch—ar y berthynas rhwng bodau dynol ac nid y math o strwythur negyddol rhwng y sawl a garcharwyd a'r sawl sy'n ei garcharu rydym yn ei gysylltu â charchardai o bosibl. Ac nid wyf eisiau inni ddiystyru hyn yn y cwestiwn penodol iawn ynghylch Baglan a pha un a yw'n lleoliad addas.
Un o'r cysylltiadau pwysicaf a drafodwyd gennym oedd y berthynas â thrigolion lleol, oherwydd roedd gwrthwynebiad cryf i'r safle yn Wrecsam ar y pryd, a gallwch weld pam. Nid yw'r ardal yr un fath â Baglan, ond ceir tebygrwydd yn yr ystyr ei bod ar gyrion ystâd ddiwydiannol, y drws nesaf i fusnesau bach a ger ystâd o dai. O ran yr effaith weledol, nid oes modd dianc rhag hyn: carchar gweithredol ydyw, nid y Taj Mahal. Ond cafwyd rhywfaint o lwyddiant wrth weithio gyda'r trigolion yn yr ystâd dai yn annibynnol ar gynghorwyr lleol i'w helpu i ddeall sut y mae'r carchar yn gweithio a thawelu ofnau ynghylch gwasanaethau cyhoeddus, beth sy'n digwydd ar ôl i bobl gael eu rhyddhau a'r math hwnnw o beth. Credaf efallai mai am hynny y mae'r deisebwyr yn sôn wrth gyfeirio at 'broblemau sy'n gysylltiedig'. Rwy'n credu bod y ddeiseb yn cyfeirio at hynny. Mae'r rheolwyr yno'n sylweddoli y bydd yn cymryd peth amser i ddwyn perswâd ar bawb ynglŷn â'u hymrwymiad i fod yn gymdogion da ac i gyfrannu yn y gymuned.
Cefais dystiolaeth fod rhywfaint o fusnesau bach wedi datblygu yn sgil y carchar, ond ni chefais amser i ymchwilio i hynny, felly nid wyf yn bwriadu cyflwyno hynny fel pwynt perthnasol heddiw. Nid wyf yn disgwyl y bydd y nifer trawiadol a lofnododd y ddeiseb hon yn newid eu barn. Rydych yn iawn, David, mae'n ymgyrch drawiadol iawn. Ond drwy rannu eu barn yn uniongyrchol â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'n gwneud synnwyr i fod yn barod am safbwyntiau eraill y bydd yn rhaid i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eu hystyried.
Rwyf braidd yn siomedig fod y sioeau teithiol roeddem yn eu disgwyl wedi eu gohirio tan y flwyddyn newydd—mae hynny newydd gael ei gadarnhau i mi—ond mae'n rhoi amser i bawb sydd â diddordeb alw am dystiolaeth newydd a'i phrofi. Credaf y gallai Prif Weinidog Cymru fod wedi dweud wrthym ddoe pwy yw buddiolwyr y cyfamod ar y tir. Bydd gwybod hynny'n helpu pawb sydd â diddordeb fel y gallant ffurfio barn ar ba mor debygol y rhoddir camau gorfodi ar waith mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri'r cyfamod, ac rwy'n falch fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymateb i'r llythyr gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriwyd ato ddoe, er nad wyf wedi'i weld, wrth gwrs.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, bydd y dadleuon allweddol yn erbyn datblygu yn y maes cynllunio, ac rwy'n gofyn hyn: a yw'n debygol iawn y bydd y tir hwn yn newid dwylo at y diben hwnnw cyn y ceir sicrwydd ynghylch caniatâd cynllunio? Fel y gwyddom, ni wnaed cais, ac fel y gwyddom, mae dadleuon perthnasol gan y deisebwyr ar yr ochr hon—mae David Rees wedi sôn am rai o'r rheini—a chânt eu hystyried yn drylwyr gan yr awdurdod lleol. Ni fyddant yn meiddio peidio â'u hystyried yn drylwyr, pe bai'n cyrraedd cyn belled â hynny. Diolch.
Mae cryfder y teimladau ynghylch y carchar arfaethedig yn glir, ac mae'n wych gweld bod rhai o'r ymgyrchwyr yma heddiw. Mae'r ffaith ein bod yn cael dadl arall ar y mater hwn mor fuan ar ôl dadl Plaid Cymru yn tystio i'r llwyddiant hwnnw. Mae hefyd yn brawf o'r grym ewyllys a'r penderfyniad sy'n bodoli yn y gymuned a thu hwnt. Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy roi teyrnged i waith yr ymgyrch leol i atal carchar Castell-nedd Port Talbot. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl nad ydynt erioed wedi ymwneud â gwleidyddiaeth neu ymgyrchoedd cymunedol o'r blaen yn cymryd rhan yn y broses o wella eu cymuned.
Mae yna lawer o blacardiau ar draws Port Talbot, a miloedd o daflenni wedi'u dosbarthu ac mae gwirfoddolwyr wedi bod yn curo ar ddrysau ac yn codi stondinau ar y stryd. Byddai rhai pobl yn credu bod etholiad ar y gorwel, oherwydd lefel y gweithgarwch. Mae'n amlwg hefyd fod y gwirfoddolwyr yn fwy na pharod i gynyddu'r gweithgaredd hwnnw os yw'r cynnig hwn yn mynd yn ei flaen i ymgynghoriad statudol, ac rwyf innau hefyd. Nid ydynt eisiau'r carchar hwn ac mae yna lawer iawn o bobl, fel rydych wedi gweld o'r ddeiseb hon, nad ydynt eisiau i'r carchar hwn fynd rhagddo ym Mhort Talbot, ac nid oes arnom ei angen yma yng Nghymru ychwaith, am y rhesymau rydym wedi'u rhoi o'r blaen.
Er gwaethaf cryfder y teimlad, gwelwyd anwadalu amlwg yn safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn—ein Llywodraeth ni, sy'n gyfrifol am wneud bywydau pobl y wlad hon yn well. Mae'n amlwg fod y ddeiseb hon wedi ei geirio i alw ar Lywodraeth Cymru i newid trywydd. Yn gyntaf, dywedodd Llywodraeth Cymru, pan gyhoeddwyd y cynnig hwn gyntaf, eu bod wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddewis safleoedd ac y byddent yn parhau i weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Roedd hi'n ymddangos bod croeso cadarnhaol i foderniaeth y carchar newydd a dadleuon heb eu profi ynglŷn ag adsefydlu. Yna, newidiodd pethau a honnwyd mai penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn unig ydoedd ac nad oedd gan Lywodraeth Cymru fawr iawn i'w wneud gyda'r argymhelliad hwn, er gwaethaf tystiolaeth fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â busnesau lleol yng nghyffiniau'r safle, o bosibl cyn y cyhoeddiad ffurfiol ym mis Mawrth.
Y safbwynt diweddaraf, ar ôl cael tystiolaeth yn ymwneud â chytundeb y cyfamod tir ar y safle arfaethedig, yw bod ganddynt bŵer i atal neu o leiaf ohirio'r safle arfaethedig rhag digwydd. Mae Llywodraeth Cymru bellach mewn sefyllfa lle mae'n dweud ei bod yn aros am fwy o wybodaeth a gwarantau amwys ynghylch y safle cyn y gwneir unrhyw benderfyniad. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw na wnaed unrhyw benderfyniad i werthu'r tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.
Mae yna anghysondeb a gwrthodiad gan Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb, yn fy marn i, rhywbeth sydd wedi dod yn nodwedd o'r hyn a welsom mewn perthynas â'r mater penodol hwn. Felly, gadewch i mi ei gwneud yn glir: mae gan y Llywodraeth hon yng Nghymru bŵer i atal y carchar. Mae ganddynt bŵer gweinidogol i atal neu ohirio gwerthiant y tir hwn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid yn unig bod yna gyfamod, ond hefyd, ceir y ffaith bod David Rees wedi dweud yn ddiweddar iawn fod y safle hwn yn ardal lle y ceir perygl mawr o lifogydd. Nid wyf yn meddwl bod atebion y Llywodraeth ar y mater hwnnw wedi bod yn ddigon i'r bobl leol hyd yn hyn.
Mae'r cyngor cyfreithiol a roddwyd i mi yn dangos ei bod yn gyfreithlon i Lywodraeth Cymru wrthod gwerthu'r tir a gorfodi'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w brynu drwy orchymyn prynu gorfodol. Rwyf fi ac eraill wedi tynnu sylw Gweinidogion at hyn dro ar ôl tro, ond yn ofer. Mae'r ffaith nad ydynt yn cydnabod y pŵer sydd ganddynt yn awgrymu i mi eu bod eisiau i'r archgarchar hwn fynd rhagddo. Ond y tu hwnt i ystyriaethau cyfreithiol, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud eu dyletswydd ac yn dadlau dros Gymru? Deallaf fod rhai yma, yn enwedig y Ceidwadwyr ac UKIP, yn gyffredinol o blaid rhagor o garchardai. Ond dylai safbwynt blaengar wrthwynebu carcharu niferoedd cynyddol o bobl. Dylai fod gwrthwynebiad i garcharu ac adsefydlu yn rhad. Ceir digon o dystiolaeth o fannau eraill yn y byd nad yw carchardai mawr yn amgylcheddau addas ar gyfer adsefydlu priodol. A wyddoch chi beth? Heb sôn am edrych ar ymchwil hyd yn oed—. Wrth siarad â charcharorion yn awr a siarad â chyn-garcharorion, maent yn dweud wrthyf ei bod fel system ffatri, maent yn dweud wrthyf nad ydynt wedi eu hadsefydlu pan fyddant yn dod allan o'r system honno, a'u bod yn aildroseddu a bod troseddu'n digwydd yn y carchar—troseddu nad oeddent yn rhan ohono cyn iddynt gyrraedd y carchar; daethant yn rhan ohono pan gawsant eu carcharu. Felly, credaf fod angen i ni wynebu realiti ynglŷn â hynny hefyd.
Mae adsefydlu yn y carchar yn gweithio orau ar raddfa lai. Mae'r un peth yn wir mewn ysgolion—nid yw'n gysyniad newydd. Os oes gennych ddosbarthiadau llai, fe gewch fwy o sylw gan yr athro. Os oes gennych ddosbarth llai yn y carchar i allu cael eich adsefydlu gan y person hwnnw, yn gyffredinol fe fyddwch yn fwy llwyddiannus. Pam rydym yn edrych ar y carchardai enfawr hyn yma yng Nghymru pan nad oes angen carchardai o'r maint hwn arnom? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud y bydd gennym ormod o gapasiti os caiff y carchar hwn ei greu ym Mhort Talbot pan fo gennym garchar newydd yng ngogledd Cymru ar gyfer y carcharorion o Gymru sydd mewn carchardai yn Lloegr am na ellid rhoi lle iddynt yng Nghymru cyn hyn. Pam nad ydym yn ailwladoli'r carcharorion hynny i Gymru, lle y dylent fod, yn hytrach na'u cadw mewn carchardai mewn mannau eraill yn y DU?
Mae fy amser eisoes wedi dod i ben. Mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ac yn anffodus, ni chaf amser i'w ddweud. Ond credaf ei bod yn dyst i'r ymgyrch hon a'r ardal leol ein bod eisiau swyddi hyfyw ym Mhort Talbot. Nid ydym am gael swyddi sydd—rywsut y dylem dderbyn unrhyw beth er mwyn cael swyddi. Credaf fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg uchelgais drwy gredu y dylem dderbyn yn ddigwestiwn yr hyn a roddir i ni. Siaradwch â phobl Port Talbot, siaradwch â hwy ynglŷn â pha swyddi y dymunant, yn hytrach na'i fod yn cael ei wthio arnom heb i ni gael penderfyniad ar rywbeth mor bwysig â charchar. Nid ydym am gael carchar newydd yn yr ardal hon, a gobeithio y bydd yr ymgyrchwyr yn llwyddiannus ac y byddant yn ymuno â'r gwleidyddion sydd ar eu hochr hwy yn rhan o'r ymgyrch hon. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar fater pwysig sy'n wynebu fy rhanbarth. Rwy'n byw ym Mhort Talbot, a rhaid i mi ddweud ar y dechrau nad wyf, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu sefydlu carchar newydd ym Mhort Talbot—mewn egwyddor. Er gwaethaf protestiadau llawer o bobl sy'n gwrthwynebu'r carchar newydd, mae angen carchar newydd ar Gymru yn bendant, ond mae'n rhaid i'w leoliad fod yn gywir, ac os oes unrhyw agwedd sy'n gwneud Baglan yn lleoliad anghywir, ac anaddas, megis y mater llifogydd y siaradodd Nigel sy'n gynghorydd Plaid Cymru â mi amdano heb fod yn hir iawn yn ôl, yna, yn amlwg, mae'r safle hwnnw'n anaddas.
Gwta bythefnos yn ôl, rhybuddiodd elusen iechyd meddwl Hafal fod gorlenwi yng ngharchar Abertawe yn effeithio ar ddiogelwch ac iechyd meddwl carcharorion. Pan adeiladwyd y carchar Fictoraidd—carchar Fictoraidd—fe'i cynlluniwyd i ddal oddeutu 240 o garcharorion; ar hyn o bryd mae'n dal ddwywaith hynny. Carchar Abertawe yw'r trydydd carchar mwyaf gorlawn yn y DU. Ac eithrio'r carchar newydd yng ngogledd Cymru, mae pob un o'n carchardai'n orlawn. Mae Caerdydd yn gweithredu ar gapasiti o 150 y cant, fel y mae carchar Brynbuga. Mae carchar Parc yn gweithredu ar ychydig dros y capasiti.
Ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer yng ngharchar Parc, gallaf ddweud wrthych fod carchardai gorlawn yn gwneud pethau'n anodd i garcharorion a staff fel ei gilydd. Nid yw carcharorion mewn carchardai modern yn cael eu cloi yn y tywyllwch a'u hanghofio; cânt eu hadsefydlu. Os oes unrhyw un am siarad â mi am fy wyth mlynedd o brofiad, byddwn yn fwy na bodlon dweud wrthynt.
Yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad i orlenwi, mae lefelau hunan-niwed ymhlith carcharorion wedi saethu i fyny, fel y mae salwch ac absenoldeb ymhlith y rhan fwyaf o swyddogion carchar. Bu cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar staff carchar. Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer y digwyddiadau o hunan-niwed wedi dyblu bron i oddeutu 38,000 y flwyddyn. Dros yr un cyfnod, mae ymosodiadau ar staff wedi cynyddu dros 32 y cant. Y llynedd, cafwyd oddeutu 6,500 o ymosodiadau ar staff, ac mewn 761 ohonynt, bu'n rhaid i'r swyddog carchar fynd i'r ysbyty.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad, a gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd ac rwy'n derbyn yn llwyr pan fo carchardai'n orlawn, fod angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond a ydych yn cytuno, felly, y byddai'n well gwario'r £1.3 biliwn y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei neilltuo ar gyfer pedwar archgarchar newydd ar wella'r system gyfiawnder mewn gwirionedd er mwyn sicrhau bod y bobl sydd angen bod yn y carchar yn y carchar, yn hytrach na'r holl bobl sydd yn y carchar ond nad oes angen iddynt fod yno, a chael y system iawn felly, oherwydd mae'r system yn methu? Mae'r system mewn anhrefn.
Felly, a ydych yn bychanu trosedd heb feddwl am y dioddefwr felly, David? Oherwydd yr hyn rydych yn ei ddweud yw bod troseddu'n ddibwys, neu fod rhai troseddau'n ddibwys. Nid yw hynny'n wir pan fo'n cynnwys dioddefwr—
Ni ddywedais hynny, ac rydych yn gwybod hynny.
Wel, rydych newydd ei ddweud.
Rhaid i ni fynd i'r afael â gorlenwi, ac yn anffodus, mae hynny'n golygu adeiladu rhagor o garchardai. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru bum carchar, ac eto caiff nifer fawr o garcharorion o Gymru eu cadw mewn carchardai yn Lloegr. Mae rhai o wrthwynebwyr y carchar yn honni bod Cymru yn dod yn y Fae Botany newydd, yn dod yn domen sbwriel ar gyfer carcharorion o Loegr. Nonsens yw hyn. Mae bron i 2,000 o garcharorion o Gymru'n cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr, ac eto caiff 700 o garcharorion o Loegr eu cadw yng ngharchardai Cymru.
Nid oes gennym garchar i fenywod yng Nghymru nac unrhyw garchar categori A. Mae'n amlwg fod angen carchar newydd. Mae gan Gymru 4,747 o garcharorion, ac eto nid oes gan y pum carchar yng Nghymru gapasiti gweithredol i ddal mwy na 3,700 o garcharorion.
Rhaid i ni adeiladu carchar, ond mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn y lleoliad cywir. Rwy'n credu y bydd fy rhanbarth yn elwa o'r carchar newydd. Yn ddiweddar, daeth Castell-nedd Port Talbot ar frig y rhestr o ardaloedd gyda'r symudedd cymdeithasol gwaethaf yng Nghymru, ac un o'r gwaethaf yn y DU mewn perthynas â thlodi. Mae taer angen mewnfuddsoddwyr ar y gymuned leol, a bydd y carchar yn creu cyfleoedd cyflogaeth mawr eu hangen. Rwy'n gwrthwynebu'r ffaith bod y cyfleoedd cyflogaeth hyn yn cael eu bychanu a'u cyhuddo o beidio â bod yn swyddi i bob pwrpas, nid yn unig yn y cyfnod adeiladu, ond hefyd yn ystod ei weithrediad, ac er gwaethaf hyn, mae rhai gwleidyddion wedi bod yn ysgogi gwrthwynebiad i'r cynlluniau ac yn chwarae ar ofnau pobl.
Nid yw'r ddadl ynghylch diogelwch cymunedol yn dal dŵr. Bydd y carchar yn un categori isel, nad yw'n dal troseddwyr difrifol a pheryglus, a llofruddwyr; bydd yn dal carcharorion categori C. Mewn cyferbyniad, mae gennym garchardai ynghanol dinasoedd yn Abertawe a Chaerdydd sy'n dal carcharorion categori B, categori uwch, ac ni fu unrhyw ddigwyddiadau diogelwch y cyhoedd yn yr un o'r carchardai hyn, nac yng ngharchar Parc, ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr. Nid yw carchardai Parc, Abertawe na Chaerdydd wedi bod yn dreth ar adnoddau lleol ychwaith.
Ac ynglŷn â honiad y deisebydd fod dros 8,000 o lofnodion yn dangos bod y rhan fwyaf o'r dref yn erbyn y carchar, mae Port Talbot yn gartref i dros 37,000 o bobl. Os oedd pob un o'r llofnodion hyn o'r dref honno, byddai'n llai na chwarter y boblogaeth, a does bosibl fod y llofnodion hyn i gyd o'r dref honno. Pe bai mwyafrif y trigolion yn gwrthwynebu'r carchar hwn, a phe na bawn yn gallu eu hargyhoeddi ynglŷn â'r manteision y gallai eu sicrhau, yna, fel eu cynrychiolydd, buaswn yn gwrthwynebu adeiladu'r carchar ym Mhort Talbot, ond fel y mae hi, nid yw'r rhan fwyaf o bobl wedi rhannu eu barn, ac rwy'n credu felly y dylai'r adran gynllunio benderfynu ynglŷn â hyn, a chan ein bod ar gam cynnar o'r cynnig a'r broses, ni allaf gefnogi'r deisebwyr ar hyn o bryd.
Nid wyf yn meddwl bod angen archgarchar newydd arnom, fel sydd gennym ar ffurf carchar Berwyn—yn sicr nid cyn i ni weld sut y mae carchar Berwyn yn perfformio o ran ei allu i leihau troseddu parhaus. Ar hyn o bryd, mae'n edrych yn ofnadwy: dros 2,000 o bobl mewn tri bloc, ac unedau o 88 o ddynion gyda'i gilydd. Nid dyma'r math o—. Barics ydyw ac ni allaf weld sut y mae hynny'n mynd i wneud unrhyw beth—
Roeddwn am ofyn a ydych wedi ei weld, oherwydd rwyf fi wedi'i weld, ac ni fyddwn yn ei ddisgrifio fel barics fy hun.
Rwy'n cyfaddef yn llwyr nad wyf wedi bod yng ngharchar Berwyn, ond mae'n llawer rhy fuan i ni wybod sut y mae mynd i berfformio, gan nad agorodd tan ddechrau'r flwyddyn hon. Yn sicr nid wyf yn meddwl y dylem lamu tuag at archgarchar arall. Mae gennym record warthus o ran troseddu parhaus ac ar hyn o bryd rydym yn rhoi pobl dan glo er mwyn eu gwneud yn droseddwyr mwy llwyddiannus, yn enwedig y rhai ar ddedfryd fer, er gwaethaf ymdrechion gorau carchardai unigol ac asiantaethau eraill sy'n ymdrechu i newid hynny. Ond nid yw hyn yn ymwneud ag ymosod ar bobl yn y system, ac nid yw'n ymwneud â gwadu'r ffaith fod angen cyfiawnder ar ddioddefwyr a bod angen i bobl dreulio amser yng ngharchar. Ond ni allwn symud tuag at system yr Unol Daleithiau, lle maent yn gwario mwy o arian ar gadw pobl dan glo nag y maent yn ei wario ar addysg, felly nid dyma'r ateb, mae'n ymddangos i mi. Ac nid wyf yn deall, felly, pam y dylai Cymru fod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol doredig, aneffeithiol sydd gennym ar hyn o bryd. Rwy'n deall fod manylion y safle hwn yn dangos ei fod i fynd dros ddarn o dir a ddynodwyd gan Mark Barry yn rhan o fetro rhanbarthol Abertawe, ac mae hynny i'w weld yn gwbl hurt, os yw hwnnw'n rhan strategol ohono.
Y ffaith amdani yw bod hanner yr oedolion sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar yn aildroseddu, ac mae 65 y cant o'r rheini—dwy ran o dair—yn aildroseddu os ydynt wedi cael dedfryd o lai na blwyddyn. Felly, mae'n hollol ddibwrpas anfon pobl i'r carchar am ddedfryd o lai na blwyddyn, oherwydd mae angen i ni gael ffyrdd eraill o sicrhau eu bod yn cyflawni eu dedfryd. Mae troseddu parhaus yn llawer llai ymhlith pobl sydd wedi cael rhybuddiadau. Mae'r ffordd y mae cyfiawnder troseddol wedi ei ddominyddu'n llwyr gan y rhagfarnau a bedlerir gan y Daily Mail, sydd ers degawdau wedi bod yn lledaenu eu bustl yn erbyn unrhyw un sy'n ceisio disgrifio system wahanol—. Nid yw eu bustl wedi'i gyfyngu'n unig i droseddwyr—mae'n cynnwys plant. Cofiaf yn iawn un ymgyrch hynod o annymunol i atal parti Nadolig i blant yng ngharchar Holloway, a'r cyfan oherwydd i'r ffaith gael ei rhyddhau fod y swyddogion carchar wedi trefnu'r parti ar gyfer y plant hyn, sef y bobl fwyaf ddifreintiedig mae'n amlwg, sy'n colli eu rhieni pan fyddant yn mynd i'r carchar.
Rwy'n meddwl y gellid gwario cost gwely o £40,000 y flwyddyn yn well. Mae angen inni edrych ar systemau gwell o fewn Ewrop. Er enghraifft, yn Norwy, mae'r system gosbi—oes, mae pobl yn mynd i'r carchar, ond rhoddir ymddiriedaeth a chyfrifoldeb iddynt cyn gynted ag y gallant ddangos eu bod yn benderfynol o fyw bywyd heb droseddu ar ôl eu rhyddhau. Maent yn cael ymweliadau priodasol wythnosol, sy'n bwysig iawn, oherwydd mae'n galluogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd, sy'n rhan allweddol o atal pobl rhag mynd yn ôl i fod yn droseddwyr. Os ydych yn trin pobl fel anifeiliaid, maent yn debygol o ymddwyn fel anifeiliaid. Yn hytrach, yn Norwy, maent yn byw mewn podiau—byngalos ar gyfer pedwar i chwech oedolyn. Cânt brynu eu bwyd eu hunain ar gyfer brecwast a swper; un pryd yn unig sy'n cael ei baratoi ar eu cyfer. Ac maent yn gweithio er mwyn ennill digon i fyw arno.
Cytunaf fod carchardai Abertawe a Chaerdydd yn cyrraedd diwedd eu hoes, ond byddai realeiddio'r ased hwn yn rhoi'r adnoddau inni adeiladu math gwahanol o garchar sy'n cadw'r cysylltiadau â'r gymuned leol. Gallaf ddweud wrthych nad oes arian gan y bobl sydd ag anwyliaid yng ngharchar Caerdydd ar hyn o bryd i fynd i Bort Talbot. Rydym angen rhywle i ddal pobl sy'n agos at Gaerdydd—rhywle o fewn pellter metro i Gaerdydd. Rwy'n gobeithio na chawn yr archgarchar newydd hwn yn ne Cymru. Nid wyf yn teimlo bod ei angen, a chredaf y dylem wneud rhywbeth hollol wahanol yng Nghymru.
A gaf fi groesawu'r ddeiseb hon, 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar', a'r 8,791 a'i llofnododd? Mae'n gyd-ddigwyddiad hapus o ran yr amserlennu yn y lle hwn fod y ddadl a'i rhagflaenodd yn ymwneud â chyfranogiad dinasyddion, dadl a gefnogwyd yn gampus gan fy hen gyfaill David Melding, ac roedd pawb ohonom yn ysgwyd pen yn ddoeth a phob un ohonom yn cytuno'n llwyr ynglŷn â lle mor hapus ac iach a fyddai gennym pe bai'r holl ddinasyddion yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad. Felly dyma ni, cam 1: gadewch i ni weld a ydym yn gwerthfawrogi cyfraniad dinasyddion Port Talbot, gawn ni? Oherwydd rydym wedi ailadrodd y dadleuon yn erbyn adeiladu archgarchar ym Maglan yma yn y Cynulliad sawl gwaith eleni mewn cwestiynau, a chawsom ddadl gan Blaid Cymru, fel y soniwyd eisoes, ym mis Medi. Collwyd y bleidlais. Roedd cynnig Plaid Cymru yn gofyn i ni bleidleisio i atal yr archgarchar. Naw yn unig o Aelodau'r Cynulliad yma a bleidleisiodd dros atal yr archgarchar.
Nawr, mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf, 'Peidiwch â chael carchar'. Nid oes neb wedi dweud wrthyf, 'Archgarchar ym Maglan? Am syniad gwych.' Nid oes neb wedi dweud hynny wrthyf. Mae yna alwadau cyhoeddus yn lleol am y morlyn llanw. Mae yna alwadau cyhoeddus o hyd am drydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe. Ond archgarchar ym Maglan—ni ddaeth unrhyw alwadau cyhoeddus amdano. Rwy'n gobeithio nad ydym yn cael cynnig y carchar hwn yn hytrach na morlyn llanw, neu yn hytrach na thrydaneiddio, ond gadewch inni beidio â dal ein gwynt.
Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y tir yn ardal fenter Port Talbot, fel y soniodd David Rees, Bethan ac eraill eisoes. Dyna'r tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer yr archgarchar hwn. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwerthu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? Mor syml â hynny.
Rydym yn gwybod nad yw carchardai, llysoedd, cyfiawnder a'r gwasanaeth prawf wedi eu datganoli i ni yng Nghymru. Dyna pam y gall Llundain ddod yma a dweud, 'Fe gawn archgarchar ym Maglan', oherwydd nid oedd gennym syniad fod hyn yn digwydd. Nid yw wedi'i ddatganoli i ni; pam y dylai ein cynnwys ni? Oherwydd nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli.
Fodd bynnag, fel y dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet, wrthym yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wythnos neu ddwy yn ôl, nid yw'r arian a ddaw gyda charchardai yn digolledu'r gost o ddarparu gwasanaethau iechyd lleol, gwasanaethau cymdeithasol, darpariaeth iechyd meddwl, darpariaeth llywodraeth leol a'r gweddill i gyd. Ni chaiff y ddarpariaeth gyfredol ar gyfer carchardai ei hariannu'n ddigonol gan y Swyddfa Gartref o ran y gwasanaethau sydd wedi'u datganoli y mae'n rhaid eu cael i gynnal y sefyllfa mewn perthynas â charcharorion yn aildroseddu, fel y soniodd David Rees yn gynharach. Ni chaiff y gwasanaethau ychwanegol hynny eu hariannu'n ddigonol, a daw hynny o enau Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ei hun.
Felly, rydym wedi cael cyflwyniad campus ar bŵer cyfranogiad dinasyddion—[Torri ar draws.] O, dyma'r ymgorfforiad o hynny'n union.
Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mater penodol iawn, a ddylai fod carchar mewn man penodol. Yr hyn y credaf y gallai cynulliad dinasyddion ei wneud—ac ar hyn o bryd byddai'n rhaid iddo fod yn un ar gyfer Cymru a Lloegr, ond efallai y cawn bolisi cosbi wedi'i ddatganoli yma ar ryw adeg—buaswn yn gofyn iddynt, 'A ddylai fod gennym batrwm carcharu sy'n nes at y model Ewropeaidd neu ein patrwm presennol lle rydym yn carcharu rhwng dwy a thair gwaith y nifer o bobl sydd angen eu carcharu er diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch rhag lladrad difrifol?' Dyna'r math o gwestiwn. Oherwydd os caiff hwnnw ei ateb mewn ffordd benodol, ni fyddai angen archgarchar arnoch yn y lle cyntaf.
Yn hollol, ac yn syndod yn dod o'r meinciau rydych yn eistedd arnynt, ond rwy'n cymeradwyo'r safbwynt hwnnw, David, a hefyd yn cymeradwyo eich cyflwyniad campus, fel y dywedais ynghynt, ar bwysigrwydd hanfodol cyfranogiad dinasyddion. Ymwneud â hynny y mae. Mae yna ddeiseb, mae yma ddeisebwyr, ac mae'n ymwneud â phwysigrwydd cyfranogiad dinasyddion mewn democratiaeth. Os yw hynny'n golygu unrhyw beth, os yw deiseb yn golygu unrhyw beth, does bosibl na chaiff Llafur gyfle i sefyll dros y slogan y maent yn ei defnyddio'n aml sef 'Sefyll dros bobl Cymru'. Wel, dyma eich cyfle: gwrthodwch werthu'r tir. Ataliwch unrhyw ddatblygiad archgarchar ym Mhort Talbot. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi yn gwrando'n ofalus ar y ddadl a gynhaliwyd y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am yr amser y maent wedi'i roi i gymryd rhan yn y ddadl, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Pwyllgor Deisebau a'r deisebwyr, sydd wedi rhoi amser i ddwyn y mater hwn i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r cynnig ger ein bron heddiw yn gofyn i ni nodi'r ddeiseb hon. Fe wnawn hynny, fe nodwn y ddeiseb, ond wrth wneud hynny, byddwn hefyd yn nodi'r ddadl y mae wedi ei hennyn, ac yn nodi'r dadleuon a gyflwynwyd. Fe nodwn y drafodaeth a gawsom heddiw, a'r drafodaeth barhaus nid yn unig ynglŷn â'r carchar penodol hwn, ond y polisi sy'n ceisio ei danategu.
Ac wrth wneud hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch yn bersonol hefyd i David Rees, sydd wedi rhoi amser i fy mriffio ac i siarad â mi ac i fy nghyfarfod i amlinellu'r pethau sy'n sail i'r mater hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i David am y ffordd y mae wedi ymdrin â'r mater hwn a'r ffordd y mae wedi hysbysu'r Llywodraeth ynglŷn â safbwyntiau pobl Port Talbot.
Yn gyntaf oll, Ddirprwy Lywydd, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, a gaf fi wneud dau beth? Yn gyntaf oll, amlinellu'r broses sydd wedi ein harwain i'r fan lle'r ydym heddiw, ond amlinellu wedyn hefyd y dull o weithredu yr hoffwn ei fabwysiadu yn y dyfodol.
Cysylltodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder â Llywodraeth Cymru fel rhan o ymarfer ar draws Cymru a Lloegr i nodi safleoedd y gellid eu datblygu ar gyfer carchar. Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd â busnesau a datblygwyr yn y ffordd hon, ac yn yr achos hwn darparwyd rhestr gennym o 20 o safleoedd. Yn amlwg, nid oeddem yn rhan o'r broses benderfynu a ddewisodd Baglan ym Mhort Talbot fel safle a ffafrir, gan mai proses dan arweiniad Llywodraeth y DU oedd hon—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Wrth gwrs.
Diolch i'r Gweinidog, ond fel y dywedais yn fy nghyfraniad, pan nad oes meini prawf wedi'u pennu gan ddatblygwr, does bosibl nad yw'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fodloni'r meini prawf y mae'r datblygwr eu heisiau. Ac yn yr achos hwn, ni wnaeth hynny. Credaf fod angen rhoi sylw i hynny.
Deallaf y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, a gwnaeth y pwynt hwnnw i mi yn ein cyfarfodydd preifat. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ailadrodd y prynhawn yma. Yn amlwg, nid yw'r mesurau a roddwyd ar waith a'r dadleuon a'r trafodaethau sydd wedi digwydd yn rhagdybio y bydd y cais cynllunio yn llwyddiannus, nac ychwaith yn rhagdybio y caiff y tir ei werthu. Nid oes unrhyw gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma yn rhagdybio ynglŷn â'r modd y cwblheir y broses hon.
Ysgrifennodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ataf yn hwyr brynhawn ddoe ynglŷn â chynnig Baglan a'r ystâd garchardai ehangach yng Nghymru. Maent wedi cadarnhau y byddai'r cyfleuster arfaethedig yn dal carcharorion categori C. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi disgrifio carchardai Caerdydd ac Abertawe fel carchardai derbyn ac maent hwy, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn rhagweld mai ychydig iawn o orgyffwrdd swyddogaethol a fydd gyda chynnig Baglan.
Byddaf yn ystyried ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder ymhellach, ond credaf fod gennym gyfrifoldeb i gynnal deialog agored ac eang â Gweinidogion y DU ynglŷn â'r agenda rheoli troseddwyr ehangach ac yn benodol, y cynnig presennol ar gyfer Baglan. Ac rwy'n addo, Ddirprwy Lywydd, y byddaf yn symud y ddeialog honno yn ei blaen.
Felly, gadewch i mi droi at y dull o weithredu y buaswn yn dymuno ei fabwysiadu fel Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes hwn. Awgrymodd David Rees, yn ei gyfraniad yn y ddadl hon, y dylid datganoli polisi cosbi i Gymru. Buaswn yn cytuno ag ef. Buaswn yn cytuno ag ef fod arnom angen polisi cyfiawnder yng Nghymru sy'n bolisi cyfannol, ac nid polisi ar gyfer carcharu pobl yn unig yn y ffordd a amlinellwyd gan Jenny Rathbone. Rwy'n gobeithio y byddem yn gweld polisi cyfiawnder fel rhan o'n polisi cyffredinol ar gyfer cymunedau diogel, er mwyn sicrhau bod pobl sydd wedi troseddu yn adsefydlu ac yn gallu byw eu bywydau fel rhan o'n cymunedau ar draws Cymru gyfan.
Hoffwn weld ystâd carchardai sy'n fodern, yn weithredol, yn gallu rhoi diogelwch a sicrwydd i garcharorion ac i'r gymuned ehangach; polisi carchardai nad yw'n seiliedig ar ddymuniad syml i gosbi a dial, ond polisi sy'n seiliedig ar gymunedau diogel; a dull cyfannol o gyfuno gwasanaethau megis addysg, sgiliau a gofal iechyd, sydd eisoes wedi'u datganoli.
Ar hyn o bryd, nid yw'r setliad datganoli presennol yn gwasanaethu Cymru'n dda. Mae'n golygu bod y modd y gweinyddwn y polisi cyfiawnder yn wael o gymharu â Lloegr a'r Alban. Nid yw'n cyflawni'r polisi sy'n diwallu anghenion Cymru. Gobeithiaf y bydd y comisiwn cyfiawnder a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn dechrau'r gwaith o greu ymagwedd strwythuredig tuag at bolisi cyfiawnder a fydd yn diwallu anghenion Cymru ar gyfer y dyfodol. Gobeithiaf y byddwn yn gallu parhau i ddwyn ynghyd yr holl wasanaethau cymunedol sydd eisoes yn gyfrifoldebau a ddatganolwyd i ni, gyda pholisi cyfiawnder a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen a symud oddi wrth ddadleuon eithaf hesb y gorffennol.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddechrau'r sgwrs hon. Rwyf am ddweud wrth yr Aelodau ei bod yn sgwrs gadarnhaol ac roedd yn sgwrs y gobeithiaf y gallwn ei symud ymlaen. Trafodwyd agenda eang, gan gynnwys troseddu ymhlith ieuenctid a menywod. Rwy'n gobeithio y gallwn, gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gytuno ar ffordd ymlaen yn y tymor byr a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a gwasanaethau heb eu datganoli yn gallu gweithio gyda'i gilydd mewn modd nad ydym wedi'i wneud yn y gorffennol o bosibl. Ar gyfer y dyfodol, gobeithiaf y byddwn yn gallu cael un polisi cyfiawnder ar gyfer Cymru a fydd yn bolisi cyfannol, ac yn un a fydd yn canolbwyntio ar y bobl a'r unigolion a'r cymunedau.
Felly, gadewch i mi ddweud hyn i orffen: mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth busnes a chymorth economaidd ar gyfer pobl Port Talbot ac mewn mannau eraill—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad ar hyn o bryd. Gwnaeth Dai Rees bwyntiau da: mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhy aml wedi troi ei chefn ar bobl yr ardal honno. Mae trydaneiddio a'r morlyn llanw yn enghreifftiau da o sut y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi troi ei chefn ar y rhan honno o'r wlad.
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnig yn agos at £1.5 miliwn i naw o gwmnïau yn yr ardal a £30 miliwn i Tata, a fydd o fudd uniongyrchol i'r gwaith ym Mhort Talbot. Mae cymunedau hefyd wedi elwa o £20 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys £11 miliwn ychwanegol o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Felly, mae angen i ni, Llywodraeth Cymru, a phobl Port Talbot ddeall beth y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno ei gynnig yn y dyfodol, ond rydym yn ymrwymo, ac rwy'n ymrwymo fel Ysgrifennydd Cabinet, Ddirprwy Lywydd, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o'r holl drafodaethau a gawn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ar hyn a materion eraill. Rwy'n addo y byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud datganiad pellach maes o law.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl?
Ie. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl a'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon? Nododd David Rees briodoldeb—neu ddiffyg priodoldeb—y safle gyda'r parth llifogydd a'i fod wedi'i ddynodi'n ardal fenter, ac nid yw nifer swyddi yn fesur go iawn o'r hyn y byddai'n ei gynnig o ran ffyniant i'r ardal.
Dywedodd Suzy Davies fod yna wrthwynebiadau i'r carchar, ac rwy'n cytuno, ond roedd gwrthwynebiadau hefyd pan oedd carchar Berwyn yn mynd i gael ei adeiladu. Tynnodd sylw at y ffaith bod llawer o'r pryderon a oedd gan y bobl yn ardal Wrecsam i'w gweld, yn rhannol o leiaf, wedi'u dileu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Soniodd Bethan Jenkins am nerth yr ymgyrch, a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi newid ei meddwl fwy nag unwaith a bod gan Lywodraeth Cymru bŵer i atal y tir rhag cael ei werthu, ac ailadroddodd sylwadau David Rees am y diffyg adsefydlu mewn carchardai mawr. Yma, credaf fod yn rhaid nodi'r angerdd a gyfrannodd y ddau siaradwr i'r ddadl hon, a'u hymrwymiad i bobl Port Talbot.
Roedd barn Caroline Jones yn wahanol, mewn sawl ffordd, i farn rhai o'r cyfranwyr yma, yn yr ystyr nad yw hi, mewn egwyddor, yn erbyn y carchar, ond nododd rai o'r rhwystrau ffisegol i adeiladu'r carchar mewn gwirionedd. Rhoddodd ddisgrifiad manwl hefyd o garchardai gorlawn, yn enwedig yn Abertawe, a'r ffaith bod yna angen amlwg am garchar newydd, a phwysleisiodd fod—
A ydych yn derbyn ymyriad?
—fod yna gyfleoedd cyflogaeth gyda'r carchar hwn yn dod i Faglan.
A ydych yn derbyn ymyriad gan Bethan Jenkins?
Nododd hefyd ei fod yn garchar categori isel, ac y bydd y penderfyniad terfynol ar hynny'n cael ei wneud gan gynllunwyr lleol mewn gwirionedd.
Nododd Dai Rees mai naw Aelod yn unig yn y Siambr hon a bleidleisiodd dros atal y carchar mewn dadl gynharach. Nododd hefyd y materion eraill, mewn perthynas â morglawdd bae Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd, a fyddai wedi bod yn lleoedd llawer mwy addas i'w hadeiladu, ac wrth gwrs, Bethan, fe wnes—a soniais amdanoch chi, Bethan, wrth fynd heibio? Rwy'n siŵr i mi wneud.
Roeddwn am wneud ymyriad dyna i gyd.
Fe hoffech ymyriad? O, yn bendant. Mae'n ddrwg gennyf, ni sylwais.
Wel, ni dderbyniodd y Gweinidog—yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ddrwg gennyf—ni dderbyniodd ymyriad gennyf, ond roeddwn am geisio gofyn iddo ynghylch y ffaith nad ydym ronyn yn gallach heddiw ynglŷn â beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Pe baech yn penderfynu peidio â gwerthu'r tir hwnnw, ni fyddai angen cais cynllunio. Felly, a wnaiff y Pwyllgor Deisebau ystyried hyn fel rhan o'ch ystyriaethau? Diolch yn fawr iawn.
Wrth gwrs—fe wnawn hynny'n bendant. Byddwn yn cymryd pob un o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon pan fyddwn yn ystyried y mater hwn nesaf yn y pwyllgor.
Rwyf am fynd ymlaen i ddweud bod Alun Davies, wrth ateb rhai o'r cwestiynau, wedi dweud yn benodol nad oes unrhyw weithred gan y Llywodraeth hyd yma wedi ymrwymo'r Llywodraeth i'r carchar ym mae Baglan, ond pwysleisiodd y byddai'r Llywodraeth yn parhau i gymryd rhan yn y broses gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Soniodd eto am y ffaith nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fae Abertawe neu i drydaneiddio cyn belled ag Abertawe, a chondemniodd hwy ar y sail honno, a gallem i gyd ddeall pam.
Fel pwyllgor, byddwn yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, gobeithiaf y bydd modd inni ystyried hefyd ymateb y deisebwyr i'r pwyntiau a godwyd heddiw a'r atebion a roddwyd. O ganlyniad, mae pwyllgor yn cyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heb ddod i gasgliadau na gwneud argymhellion mewn unrhyw gyfeiriad penodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, teimlwn fod hon yn ddadl bwysig i'w chael, ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth ac atebion i'r rhai a lofnododd y ddeiseb ynglŷn â'r pryderon sydd wedi bod ganddynt. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.