8. Dadl Plaid Cymru: Catalwnia

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:31, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad.

Cyfeiriwyd sawl gwaith heddiw at y DU yn caniatáu pleidlais i'r Alban ar ymwahaniad. Mae'n bwysig cofio, wrth gwrs, fod Llywodraeth yr Alban a etholwyd yn ddemocrataidd wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer ail refferendwm a gafodd eu hatal gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Ni chafodd pobl yr Alban ddewis ar y pwynt hwnnw ynglŷn â chael pleidlais ai peidio.