Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac am rannu eu cyfraniadau, a hefyd am roi'r cyfle hwn i mi gyfrannu ar ran Llywodraeth Cymru? O'r ddadl heddiw a chyfraniadau angerddol ac egwyddorol yr Aelodau y prynhawn yma, mae'n amlwg fod yna deimladau dwfn a chryf yn bodoli yn y Siambr ar y mater hwn. Credaf nad yw hi ond yn deg i mi ddechrau drwy wneud y pwynt amlwg a phwysig iawn nad lle Llywodraethau Sbaen neu Gatalonia fyddai ceisio dylanwadu ar y strwythurau gwleidyddol rydym yn dewis eu datblygu i ni ein hunain yma yng Nghymru. Ac yn yr un modd, nid wyf yn credu mai fy lle i neu Lywodraeth Cymru yw mynegi barn ar ba un a ddylai Catalonia fod yn genedl annibynnol ai peidio. Nid mater i ni ei benderfynu yw hwnnw. Ond rwy'n credu ei bod hi'n deg i'r Cynulliad hwn atgoffa ein hunain ac eraill o'r egwyddorion sy'n sail i sefydliadau democrataidd fel ein hun ni, a nodwyd hyn yn briodol tu hwnt gan nifer o'r cyfranwyr yn y ddadl heddiw.
Ugain mlynedd neu fwy yn ôl, pleidleisiodd Cymru dros sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yn ymgyrch refferendwm angerddol a dwys, gyda'r ddwy ochr yn cyflwyno gweledigaethau gwahanol iawn o'r Gymru y dymunent ei gweld yn y dyfodol. Cymerais gryn dipyn o ran yn y ddadl honno, ac roeddwn yn un o'r ymgyrchwyr angerddol iawn, ac roeddwn yn dadlau'n glir iawn dros un ochr. Ond yr hyn a unai bob ochr yn yr ymgyrch mewn gwirionedd oedd y derbyniad sylfaenol mai pobl Cymru a fyddai'n gwneud y penderfyniad am eu dyfodol a byddai'r canlyniad hwnnw'n cael ei barchu a'i weithredu, ac wrth gwrs fe ddigwyddodd hynny.
Ewyllys cyfansoddiadol a democrataidd pobl Cymru fel y'i mynegwyd yn y refferendwm hwnnw oedd sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros y penderfyniadau a'r polisïau sy'n effeithio arnom ni a'n cymunedau. Roedd yr egwyddorion hynny'n sail hefyd i bleidlais y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban yn 2014, ac unwaith eto, roedd hi'n ymgyrch arw ac anodd weithiau, ac yn un angerddol iawn, ond roedd hi hefyd yn seiliedig ar egwyddor greiddiol ddemocrataidd mai mater i bobl yr Alban oedd penderfynu ar eu dyfodol eu hunain, ac y byddai canlyniad y refferendwm yn cael ei barchu. Fel roedd hi, parhaodd yr Alban yn aelod o'r Deyrnas Unedig, ond nid wyf yn amau am eiliad, pe bai'r Alban wedi penderfynu pleidleisio o blaid annibyniaeth, byddai Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod hynny'n digwydd.
Er bod y ddwy enghraifft yn wahanol iawn yn eu ffyrdd eu hunain i'r enghraifft Gatalanaidd rydym yn ei thrafod, mae llawer o debygrwydd yn ogystal. Sofraniaeth boblogaidd yw'r garreg sylfaen y seilir gwleidyddiaeth ddemocrataidd arni. Mae egwyddor hunanbenderfyniad yn un a nodwyd yn glir yn siarter y Cenhedloedd Unedig. Felly, hefyd, mae gwleidyddiaeth ddemocrataidd yn seiliedig ar barch, ymwrthod â thrais ac anoddefgarwch tuag at ymddygiad bygythiol.