Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Dros y penwythnos, gwnes sifft yn casglu bwyd yn Tesco ym Merthyr Tudful gyda Banc Bwyd Merthyr Cynon. Awr neu ddwy yn unig o fy amser ydoedd i gynorthwyo gwirfoddolwyr banciau bwyd—gwirfoddolwyr sy'n rhoi oriau lawer o'u hamser, o un wythnos i'r llall, er mwyn darparu cymorth gwerthfawr i bobl pan fo fwyaf o'i angen arnynt. Er fy mod yn barod i wneud popeth a allaf i gynorthwyo gwaith y banc bwyd, a gaf fi ddweud nad wyf yn ei ystyried yn brofiad dyrchafol iawn, fel y disgrifiodd Mr Rees-Mogg AS waith y banciau bwyd? Yn wir, rwy'n ei ystyried yn adlewyrchiad trist iawn ar ein dyddiau ni. Mae'n drist fod cynifer o bobl—4,191 yn fy ardal i yn unig—angen help gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, dylai hynny roi rhywbeth i bawb feddwl amdano.
O dystiolaeth yr etholwyr a ddaw ataf am gyngor—gwn nad wyf ar fy mhen fy hun yn hyn—mae'n amlwg fod nifer o'r bobl sydd angen cymorth gan y banciau bwyd wedi wynebu anawsterau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae fy swyddfa etholaeth wedi cael ei hawdurdodi i ddosbarthu talebau banciau bwyd. Yn y sgyrsiau gydag etholwyr, yn rhy aml mae'n argyfwng a achosir gan hawliad budd-dal neu oedi cyn talu sy'n arwain yn uniongyrchol at eu hangen am gymorth brys.
Mae pobl yn fy etholaeth yn wynebu'r anawsterau hynny yn awr, a hynny cyn y bydd cyflwyno'r credyd cynhwysol yn cyrraedd Merthyr Tudful a Rhymni. Mae gennyf ofnau gwirioneddol dros rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy nghymuned pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd yn y pen draw—ofnau a atgyfnerthir gan y dystiolaeth o'r ardaloedd hynny lle y cafodd y credyd cynhwysol ei roi ar waith eisoes, fel yr enghraifft o Dorfaen y clywsom amdani eisoes.
Ni allaf ymatal rhag cyferbynnu effaith y credyd cynhwysol, sydd nid yn unig yn rhan allweddol o ddiwygio lles y Torïaid, cofiwch, ond sydd hefyd yn rhan o ddarlun ehangach o bolisïau cyni aflwyddiannus y Torïaid—cyferbynnu hynny â'r cynnydd a wnaed yn y frwydr yn erbyn tlodi plant, teuluoedd a phensiynwyr o dan Lywodraethau Llafur blaenorol. Dengys ystadegau o ddiwedd y 1990au hyd at ddyfodiad Llywodraeth glymblaid y DU yn 2010, fod Llafur wedi defnyddio dulliau Llywodraeth i helpu i godi 500,000 o blant a 900,000 o bensiynwyr allan o dlodi cymharol. Fel rwyf wedi sôn droeon, mae pla tlodi mewn gwaith yn ein cymunedau yn dal i dyfu gan fod diddymu credydau treth fwy neu lai wedi cael gwared ar y budd posibl o gyflwyno cyflog byw cenedlaethol ffug George Osborne yn 2015.
Fel y gallai llawer ohonom ei nodi, mae Sefydliad Joseph Rowntree newydd ddweud bod tlodi plant, teuluoedd a phensiynwyr bellach yn ôl ar yr un lefelau â chyn 1997 fwy neu lai. Felly, o ganlyniad uniongyrchol i gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi mynd tuag yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf wrth ymdrin â thlodi, a bydd cyflwyno'r credyd cynhwysol yn mynd â ni'n ôl hyd yn oed ymhellach. Rwy'n aml yn meddwl tybed i ba raddau y gall Cabinet Llywodraeth y DU sy'n llawn o filiwnyddion Torïaidd wir ddeall y materion hyn. A ydynt erioed wedi bod allan i weld drostynt eu hunain beth yw effaith eu polisïau ar aelodau gwanaf ein cymunedau? Os ydynt, a'u bod yn parhau gyda'r newidiadau hyn, nid oes ganddynt galon na chydwybod nac unrhyw dosturi.
Felly, rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn gan ein bod yn amlwg yn rhannu pryderon ynglŷn â'r diffygion yn y credyd cynhwysol, a heb newid sylfaenol ym mholisi Llywodraeth y DU ar hyn, ofnaf y byddwn yn dychwelyd at y ddadl sawl gwaith eto yn y flwyddyn sydd i ddod.