Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
A oes yna gyfraith yn yr Alban sy'n mynnu y dylai fod rhwydwaith mewn lle er mwyn hybu cerdded a seiclo? Na, o beth rydw i'n deall. Ni, wrth gwrs, yw'r wlad sy'n gwneud hwn. Y cam nesaf yw sicrhau bod y mapiau rhwydwaith integredig—maen nhw wedi, fwy neu lai—wedi cael eu rhoi mewn i ni fel Llywodraeth. Mae'n rhaid i'r rheini, wrth gwrs, gael eu hystyried, ac rydym ni'n moyn sicrhau bod y mapiau hynny yn gadarn fel sylfaen i adeiladu teithio llesol yn y pen draw.