Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:34, 12 Rhagfyr 2017

Ond mae'n wir, onid yw e, Brif Weinidog, fod rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ddangos mwy o uchelgais, achos o feddwl am y ffigurau mae e newydd eu dyfynnu, os ydym yn cymharu'r rheini â'r ffigur cyfatebol ar gyfer yr Alban, maen nhw newydd ddyblu'r buddsoddiad y maen nhw'n ei roi i mewn i deithio llesol—hynny yw, cerdded a seiclo—o £40 miliwn—sy'n llawer mwy na ni i ddechrau—lan i £80 miliwn. Dyna Lywodraeth sydd yn rhoi priod le i'r maes yna o bolisi nad ydym ni'n ei wneud ar lefel cenedlaethol ar hyn o bryd.