Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Nac ydy, nid yw'n dderbyniol. Wrth gwrs, mae hwn yn wasanaeth nad yw wedi ei ddatganoli. Bu rhai gwasanaethau a ganslwyd ar reilffordd y Cambrian am amryw o resymau: mae rhai oherwydd prinder cerbydau, sydd, pan fydd y fasnachfraint newydd yn dechrau, yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld yn dod i ben, a bu problemau trwsio yr wyf i'n eu deall. Ond, na, gallaf ddeall y rhwystredigaeth ddwys a deimlir gan gwsmeriaid ar y gwasanaethau rheilffyrdd, ac mae'n rhaid i Drenau Arriva Cymru sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn a allant i osgoi achosion o ganslo ac, os bydd achosion o ganslo, cynnig cludiant arall. Dyna'r hyn y byddai pobl yn ei ddisgwyl, a dyna'r math o wasanaeth y byddem yn eu hannog i'w ddarparu.