Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Wrth gwrs, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ddatganoli cyn bo hir a byddwch chi'n gyfrifol am y fasnachfraint newydd. Gan fod Arriva ei hunan wedi tynnu allan o'r broses yna, pa sicrwydd medrwch chi ei roi i'r bobl yn y gorllewin a'r canolbarth, drwof fi, fod y buddsoddiad staff presennol yn mynd i aros, o safbwynt yr orsaf trwsio a chadw a chynnal sydd ym Machynlleth, ac, wrth gwrs, y staff yn y gorsafoedd ar draws y rheilffordd? Rydw i'n gwybod bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi'r ffaith bod staff ar gael ar y rheilffordd fel hyn ac, wrth gwrs, yn ei dro, mae hynny wedi arwain at fwy o ddefnydd o'r rheilffordd.