Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Wel, dyna'r gyfraith ac mae'n rhaid cydymffurfio â hi, ond, o ran arian, gallaf ddweud bod y gronfa trafnidiaeth leol a'i rhagflaenydd, y grant consortia trafnidiaeth rhanbarthol, wedi bod yn brif ffynhonnell o gyllid ar gyfer llwybrau cerdded a beicio lleol, yn enwedig llwybrau newydd, gan gynnwys y rheini i safleoedd cyflogaeth. Mae'r gyfran sy'n cael ei gwario ar gynlluniau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar geisiadau, ond wedi dod i gyfanswm o tua £6 miliwn y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan helpu i ddatblygu cynlluniau a phecynnau mwy uchelgeisiol. Mae hynny yn ogystal, wrth gwrs, â'r grant sydd wedi bod ar waith ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r grant diogelwch ar y ffyrdd.