Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Wel, dau beth: yn gyntaf oll, mae eisoes yn digwydd trwy Cymru Iach ar Waith—mae 3,549 o sefydliadau yng Nghymru sy'n cyflogi 503,914 o bobl wedi cymryd rhan yn yr amrywiaeth o raglenni Cymru Iach ar Waith ers mis Gorffennaf 2011, ac mae hynny'n cynrychioli 36 y cant o boblogaeth weithio Cymru. Mae'n rhywbeth, wrth gwrs, a fydd yn rhan o'r contract economaidd, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei esbonio yn ddiweddarach, yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd.