Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Gwnaf. Mae'r cynllun cyflawni'r tasglu yn nodi camau gweithredu a cherrig milltir i gyflawni tair blaenoriaeth: swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau cymunedau. Mae'n enghraifft ardderchog o weithio cydgysylltiedig a chydweithredol—yr holl eiriau poblogaidd yn y fan yna—yn cynnwys partneriaid o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector ac, yn bwysicaf oll, cymunedau'r Cymoedd.