Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, rwy'n cytuno 100 y cant â'r Prif Weinidog: mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm ers datganoli, felly mae yna nifer fawr o bobl gyda sgiliau Cymraeg ond sydd ddim yn eu defnyddio, neu sydd ddim yn ystyried bod gyda nhw sgiliau Cymraeg.
Mae gan athrawon rhaglen sabothol, wrth gwrs. A oes gyda chi syniad eto am sut y gellid cefnogi'n ystyrlon unigolion allweddol mewn gweithluoedd eraill?