Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Pan wnaeth Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Ddeddf yma, fe ddywedon ni ein bod ni'n gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n colli grym yn ogystal ag ennill grym. Rwy'n eich cofio chi'n dweud a'r Llywodraeth yn dweud ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud hyn achos ein bod ni'n ennill y grym yma rydych chi newydd ei amlinellu dros bwerau ynni yng Nghymru. Pam, felly, nad ydych ch'n manteisio ar y cyfle cyntaf, fis Ebrill y flwyddyn nesaf, i ymgymryd â'r pwerau hyn, er enghraifft i wahardd ffracio yng Nghymru, rhywbeth a fyddai'n cael croeso eang iawn gan y boblogaeth? Mae'r Cynulliad hwn yn barod ar gyfer y pwerau hyn, mae pobl Cymru yn barod ar gyfer y pwerau hyn, pam nad ŷch chi?