Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Wel, mae'n hollbwysig bod y strwythur mewn lle er mwyn inni allu defnyddio'r pwerau. Ni sydd wedi gofyn am hyn—bod y pwerau'n cael eu dodi bant am gwpwl o fisoedd—er mwyn bod y strwythur mewn lle inni allu gweithredu. Beth nad ydym ni'n moyn ei wneud ydy bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n cymryd y pwerau ac, wedi hynny, nad ydym ni'n barod amdanyn nhw. Maen nhw'n gymhleth iawn. Maen nhw'n bwerau nad ydym ni wedi eu cael o'r blaen, ond rydym ni'n hyderus iawn, wrth gwrs, ynglŷn â'r amserlen rydym ni wedi ei chytuno â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod hwn yn rhywbeth sydd yn rhoi cyfle inni ddodi strwythurau mewn lle er mwyn bod y pwerau'n dod.