Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Wel, dyna beth yw cwestiwn. A gaf i ddiolch i Mike am ofyn ei gwestiwn yn Gymraeg?
Data'r cyfrifiad yw sail y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Roedd cyfrifiad 2011 wedi cofnodi bod 562,000 o ddinasyddion Cymru yn eu hadnabod eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, ond mae e'n anodd ynglŷn ag ym mha ffordd mae rhywun yn diffinio ei hun fel rhywun sydd yn siarad Cymraeg. Rwyf i wedi cwrdd â phobl sydd â Chymraeg digon da, Cymraeg pob dydd, sydd ddim yn cyfrif eu hunain fel siaradwyr Cymraeg o achos y ffaith eu bod nhw'n clywed yr hyn maen nhw yn Gymraeg ar y teledu a'r radio a'n meddwl, 'Wel, os taw dyna beth yw Cymraeg, nid yw fy Nghymraeg i'n ddigon da.' So, i fi, mae yna dasg dros y blynyddoedd i fagu hyder gyda phobl—pobl sydd ddim ag unrhyw fath o gefndir llenyddol, pobl sydd ddim yn darllen pethau yn Gymraeg ond sy'n gallu siarad Cymraeg ar lafar, er mwyn eu bod nhw'n gallu ystyried eu hunain fel siaradwyr Cymraeg ac i ddiffinio eu hunain fel siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad.