– Senedd Cymru am 6:33 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar adolygiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Dau yn ymatal—rwy'n cywiro fy hun. Dau yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Pleidlais, felly, ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r pleidlais. O blaid 40, tri yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
Y bleidlais nesaf ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r pleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 3.
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 4.
Pleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Cynnig NDM6608 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017.
2. Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addewidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
3. Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.
4. Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus" yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Mae'r bleidlais nesaf ar Gyfnod 4 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Kirsty Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.
Dyna ddod â'n trafodion i ben am y dydd.