Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r gymuned dementia i lunio strategaeth dementia newydd ar gyfer Cymru, ac yn wir cododd hyn mewn datganiad busnes dim ond ychydig o wythnosau yn ôl, pan y cadarnhaodd y byddai'r strategaeth yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Rwy'n siŵr y bydd yn ystyried y materion yr ydych chi wedi eu codi o ran y gwasanaeth pwysig hwn pan fydd yn gwneud hynny.