– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar Julie James, arweinydd y tŷ, i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar y cynllun gweithredu economaidd. Fel arall, dangosir busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf y tymor newydd ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Mae iechyd yn fwy nag ysbytai ac achosion brys; mae'n ymwneud â dewisiadau o ran ffordd o fyw. Mewn treialon, cafodd hanner y bobl a oedd wedi bod â diabetes math 2 ers llai na chwe blynedd eu gwella gan ddeiet yn unig. Rydym ni'n gwybod pa mor niweidiol yw ysmygu a pha mor bwysig yw deiet ac ymarfer corff. Trwy weithio gyda meddygon teulu, gallwn wella iechyd. Hoffwn ofyn am ddatganiad ar gamau'r Llywodraeth i wella iechyd y cyhoedd, gan gynnwys swyddogaeth gofal sylfaenol.
Diolch am y sylwadau pwysig iawn yna. A dweud y gwir, mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod pobl yn deall sut y gallant helpu eu hunain orau yn y materion hyn. Roedd yr Ysgrifennydd iechyd yma yn gwrando arnoch chi, a gwn ei fod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r materion hyn. Rwy'n siŵr y bydd yn diweddaru'r Senedd maes o law.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar ddarparu gwasanaethau dementia yn ne-ddwyrain Cymru, os gwelwch yn dda? Mae'r cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gau'r ward dementia yn Ysbyty Cymunedol Cas-gwent yn achosi cryn bryder ymhlith y gymuned yn yr ardal. Os bydd y ward hon yn cau, byddai'n rhaid i gleifion deithio i Lyn Ebwy neu Gasnewydd am driniaeth, a fyddai'n achosi anawsterau enfawr mewn sir wledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn achlysurol, yn ddrud ac yn araf. Adroddir bod y cynnig hwn o ganlyniad i broblemau staffio ym maes gofal iechyd meddwl oedolion hŷn. Hon yw'r adran â'r broblem go iawn, ac maen nhw'n mynd i'w chau. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar yr ad-drefnu niweidiol hwn, os gwelwch yn dda? Diolch.
Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r gymuned dementia i lunio strategaeth dementia newydd ar gyfer Cymru, ac yn wir cododd hyn mewn datganiad busnes dim ond ychydig o wythnosau yn ôl, pan y cadarnhaodd y byddai'r strategaeth yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Rwy'n siŵr y bydd yn ystyried y materion yr ydych chi wedi eu codi o ran y gwasanaeth pwysig hwn pan fydd yn gwneud hynny.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd iechyd gynllun gwerth £68 miliwn yr wythnos diwethaf, ar gyfer canolfannau iechyd a gofal, gan gynnwys 11 o ganolfannau a meddygfeydd teulu newydd, yn ogystal ag adnewyddu clinigau a chanolfannau iechyd presennol, sydd i'w groesawu'n fawr. Ond mae trefi mewn gwahanol rannau o Gymru sy'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael cyfran deg o adnoddau'r gwasanaeth iechyd. O ran Sir Drefaldwyn, bydd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn arwain at ailddatblygu'r cyfleusterau ym Machynlleth a chanolfan gofal iechyd sylfaenol newydd yn Llanfair Caereinion, ond mae'r Drenewydd yn teimlo ei bod wedi'i hesgeuluso'n fawr iawn a'i bod yn cael ei hanghofio bob amser. Bu prosiect ailddatblygu ysbyty anferth yn Llandrindod i'r de o'r Drenewydd, felly mae'n un o'r trefi y gellir eu galw'n drefi sinderela yng Nghymru. Mae Blaenau Ffestiniog yn un arall yr wyf i wedi sôn amdani droeon yn y Siambr hon. Tybed a allwn ni gael dadl ar y pwnc trefi sinderela hyn sy'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu cyfran deg o adnoddau gan y GIG.
Nid wyf yn cyd-fynd â diffiniad yr aelod bod unrhyw dref yng Nghymru yn dref sinderela. Rwy'n siŵr bod yr holl drefi yng Nghymru yr un mor bwysig â'i gilydd, i Gymru gyfan, pob un o'i chymunedau ac i'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam y dylid caniatáu i'r Aelod barhau gyda disgrifiad o'r fath.
Mae gennyf ddau gwestiwn i chi, arweinydd y tŷ. Rhan o'r ymrwymiad i'r 'Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi' yw i gyflogwyr symud ymlaen tuag at ddod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn. A ydych chi'n croesawu'r ymrwymiad Cyngor Tref y Barri i fod y dref cyflog byw go iawn gyntaf yng Nghymru? Pa gefnogaeth a roddir i'r ymgyrch cyflog byw go iawn yng Nghymru a arweinir gan Citizens Cymru Wales a Cynnal Cymru?
Fy ail gwestiwn yw: a wnewch chi hefyd groesawu Patrick Oketcho o Tororo yn Nwyrain Uganda, myfyriwr yng Ngholeg yr Iwerydd sydd yma gyda ni heddiw, gyda chefnogaeth cyrff Anllywodraethol Uganda Tocida a'r elusen Vale for Africa, yr wyf i'n ymddiriedolwr iddi? Roedd Patrick yn gallu ymuno â mi yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol heddiw, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu rhyngwladol, a gadeiriwyd gan Rhun ap Iorwerth. A fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y rhaglen Cymru o blaid Affrica sy'n cefnogi mentrau sydd o fudd i Gymru ac Affrica?
Ie, o ran y peth Cymru o blaid Affrica, rwy'n croesawu Patrick yn fawr. Patrick yw'r pedwerydd myfyriwr o Uganda i elwa ar ysgoloriaeth ddwy flynedd yng Ngholeg yr Iwerydd o dan y cynllun gwych hwn, a ariennir gan y gwirfoddolwyr yn Vale for Africa. Yn wir, roedd y ddau ohonom ni mewn derbyniad ar gyfer Coleg yr Iwerydd yn ddiweddar yn y Senedd, ac roedd hi'n wych i gwrdd â rhai o'r myfyrwyr a'r rhieni a rhai o'r athrawon yno hefyd.
Mae Vale for Africa yn un o fwy na 350 o grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd â chysylltiad ag Affrica is-Sahara ac rydym ni'n falch iawn o'r rhaglen a'r holl fanteision sydd iddi, nid yn unig i bobl Affrica, ond mewn gwirionedd i bobl Cymru hefyd, o ran y cyfnewid diwylliannol rhyngddynt. Rydym ni'n annog mwy o bobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn prosiectau datblygu rhyngwladol a helpu'r prosiectau hynny i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, fel yr wyf yn dweud, yma ac yn Affrica hefyd.
Yn y tair blynedd diwethaf, mae cyfanswm o £640,000 wedi'i ddosbarthu trwy 131 o grantiau i 89 o sefydliadau yng Nghymru i gefnogi'r gwaith partneriaeth yn Affrica is-Sahara drwy Hub Cymru Affrica, a ariennir drwy'r rhaglen Cymru o blaid Affrica. Mewn gwirionedd, y llynedd gwnes i agor uwchgynhadledd datblygu rhyngwladol Cymru yn Abertawe, y daeth dros 200 o bob iddi, ar gyfer Cymru o blaid Affrica hefyd. Felly, mae'n rhaglen hynod o bwysig i ni yma yng Nghymru ac i bobl Affrica. Rwy'n llongyfarch Patrick yn fawr iawn am fod yma gyda ni heddiw. Efallai y caf i gyfle i gwrdd ag ef—byddai hynny'n wych.
O ran cyflog byw go iawn, rwy'n llongyfarch Cyngor Tref y Barri yn fawr iawn am hynny. Mewn gwirionedd, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio cyn bo hir ei gynllun gweithredu economaidd, gan ddweud rhywbeth ynddo ynghylch yr angen i gydnabod gwaith teg ledled Cymru. Mae ein sector cyhoeddus yn amlwg yn mynd i arwain y ffordd yn hynny o beth, ac mae'n braf iawn gweld bod Cyngor Tref y Barri wedi cytuno i'r ymrwymiad hwnnw yn y ffordd honno. Wrth gwrs, lansiodd y Prif Weinidog y cyflog byw gwirioneddol newydd fan hyn yn y Senedd yn ddiweddar, ac yn wir mae prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi yn ddiweddar y byddan nhw i gyd hefyd yn talu cyflog byw go iawn, ac rwy'n croesawu'r datblygiad hwnnw hefyd. Felly, mae'n ddatblygiad rhagorol a dylid eu llongyfarch yn fawr iawn.
Bu'n 15 mis ers i'r mater o danau naddion pren a dympio naddion pren yn anghyfreithlon gael ei godi yn y Siambr, felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallem gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, neu o bosibl gan Weinidog yr Amgylchedd nawr, i'n diweddaru ar y cynnydd: ar y meysydd rheoleiddio sydd angen eu diwygio, y dystiolaeth sydd wrth wraidd y penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud, a pha gynnydd a wnaethpwyd ar ddrafftio gwell rheoliadau a fydd yn helpu i atal y digwyddiadau difrifol hyn rhag digwydd eto. Gofynnais am y datganiad yn ôl ym mis Mehefin, a hyd y gwelaf i, nid oes unrhyw arwydd bod hynny i ddod. Felly, os gallech chi symud ymlaen â hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol rwy'n credu, yn newydd i'r swydd ac rwy'n siŵr y bydd yn cyflwyno'r datganiad hwnnw cyn gynted ag y mae'n gallu yn ei phortffolio. Byddaf yn sicr o'i hatgoffa am hynny.
Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dathlu saith deg pump o flynyddoedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol—un o'r sefydliadau gwareiddio gorau a sefydlwyd gan Lywodraeth erioed. Mae'n amlwg yn drist iawn gweld y ffordd y mae'r GIG yn cael ei danseilio a'i breifateiddio dros y ffin yn Lloegr, ond yng Nghymru rydym ni wedi cynnal ethos ac egwyddorion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Tybed a wnewch chi amlinellu beth yw bwriad Llywodraeth Cymru i ddathlu'r llwyddiant mawr hwn, ac i ddathlu'r sefydliad hwn a'i ddyfodol.
Yn sicr, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu saith deg pum mlynedd ers sefydlu'r GIG mewn digwyddiadau yn Nhredegar, wrth gwrs—cartref y GIG ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan—ac yn wir dathliadau ledled Cymru. Mae'r flwyddyn 2018 yn rhoi cyfle ardderchog i ni ddathlu penderfyniad y bobl i greu gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer yr holl bobl, ac yn wir i ddathlu ein penderfyniad i gadw at egwyddorion ac ethos sefydlu'r GIG yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwneud llawer o waith gyda grwpiau a sefydliadau ledled Cymru i gynllunio a chydgysylltu'r dathliadau, a hefyd i achub ar y cyfle i edrych ar ddyfodol y GIG a sut y gallwn ni ei wneud yn GIG mwy integredig a chynaliadwy i gyflawni ein hymrwymiad 'Byw yn Iach ac Egnïol' a amlinellir yn 'Symud Cymru Ymlaen'.
Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar Nant y Rhath. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y gwaith arfaethedig yn cael ei ohirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond os aiff yn ei flaen wedyn bydd pobl yn y rhan hon o Ben-y-lan yn colli hanner eu parc a nifer fawr o goed aeddfed. Y rheswm a roddwyd yw atal llifogydd, ond ni fu llifogydd yn y parc penodol hwn am fwy na 70 mlynedd yn sicr, os erioed, ac roedd y modelu a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar yr ardal gyfan ac roedd y data a ddosbarthwyd gyda'r ymgynghoriad yn anghywir—roedd yn anghywir iawn. Felly, tybed a oes polisi Llywodraeth ar ailwneud ymgynghoriadau sy'n ddiffygiol, ac a gaiff pobl Pen-y-lan yn ardal Nant y Rhath eu clywed neu beidio.
Wel, mae'r ymgynghoriad yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n siŵr bod atal llifogydd yn bwysig iawn ym mhob ardal o Gymru. Mae'n achosi niwed gwirioneddol drychinebus, ac wrth inni nesáu at y gaeaf mae angen inni fod yn barod mewn gwirionedd ar gyfer y gaeaf. Mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd i gymryd hyn o ddifrif. Os oes gan yr Aelod broblemau penodol o ran yr ymgynghoriad, rwy'n awgrymu ei fod yn ysgrifennu at noddwyr yr ymgynghoriad ac yn nodi'r materion penodol.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar effaith tywydd y gaeaf ar drafnidiaeth ar ôl y penwythnos o darfu a gawsom. Ddoe, ynghyd â miloedd o bobl eraill, fe gymerodd hi saith awr a hanner, a llawer o newid trenau, i mi deithio o Wrecsam i Gaerdydd. Roedd y staff ar y trên, mae'n rhaid i mi ddweud, yn wych, yn cynnig coffi am ddim a dyn a ŵyr beth arall. Ni allan nhw fod yn gyfrifol am eira ac ni allan nhw fod yn gyfrifol am goed yn cwympo. Cafwyd methiannau signalau yn ogystal â threnau a oedd mynd tuag yn ôl yn ogystal ag ymlaen. Cyd-destun deall sut gallai hyn fod wedi digwydd yn y ffordd a wnaeth; y graddau yr oedd hyn y tu hwnt i reolaeth unrhyw un; a'r graddau y gallwn ni gynllunio'n well pe byddai'r math hwn o dymheredd, eira a rhew yn digwydd eto, wrth i'r gaeaf fynd yn ei flaen.
Yn ail ac yn olaf, mewnblaniadau rhwyll. Rwy'n gwybod bod Neil McEvoy wedi galw arnoch chi, yr wythnos diwethaf, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar fewnblaniadau rhwyll a gwnaethoch chi ateb bod yr Ysgrifennydd iechyd eisoes wedi gwneud ymrwymiad i gyflwyno datganiad ar fewnblaniadau rhwyll, ac roeddech chi'n siŵr y byddai'n gwneud hynny yn fuan iawn. Hyd yn hyn, mae ei ddatganiad, gan gynnwys ymatebion ysgrifenedig ataf i ar ran etholwyr, wedi dangos ei fod yn dal i gredu bod y manteision yn gwrthbwyso'r risgiau. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi sicrhau bod y datganiad yn ystyried datblygiadau diweddar yn y cyd-destun hwn. Yn Awstralia, mae eu corff rheoleiddio yn adran iechyd, y weinyddiaeth nwyddau therapiwtig, wedi dod i'r casgliad nad yw manteision defnyddio cynhyrchion rhwyll drwy'r wain i drin brolaps organau'r pelfis yn gwrthbwyso'r risgiau y mae'r cynhyrchion hyn yn eu hachosi i gleifion. Maen nhw hefyd yn ystyried bod diffyg tystiolaeth wyddonol ddigonol ar gael iddyn nhw i fod yn fodlon bod y risg i gleifion sy'n gysylltiedig â defnyddio cynhyrchion rhwyll, fel slingiau bach un endoriad ar gyfer trin anymataliad wrinol cysylltiedig â straen, yn cael ei wrthbwyso gan eu manteision, ac mae Awstralia yn tynnu'r cynhyrchion hyn oddi ar eu cofrestr o nwyddau therapiwtig. Ac, yn y DU, adroddir bod y corff gwarchod iechyd, NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, wedi datgan y dylid gwahardd llawdriniaethau rhwyll drwy'r wain, ac yn y dogfennau sydd i'w cyhoeddi ar ôl ymgynghori y mis hwn, yn dweud bod pryderon diogelwch difrifol ond gwybyddus. Ac, wrth gwrs, mae defnyddio'r mewnblaniadau i drin prolaps organau ac anymataliad wrinol eisoes wedi'i atal yn yr Alban. Byddwn i felly'n ddiolchgar, pan ddaw'r datganiad a addawyd, pe gallai'r datblygiadau hyn gael eu hystyried. Diolch.
O ran eich cais cyntaf am ddatganiad, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi cael anhawster sylweddol yn dod i lawr o'r gogledd, fel nifer fawr o Aelodau eraill yn y Siambr, ac mae wedi nodi ei barodrwydd i gyflwyno datganiad am yr hyn y gellir ei wneud yn y modd y mae'r Aelod yn ei amlinellu—yr hyn na ellir bod wedi ei osgoi, yr hyn y gellir ei osgoi yn y dyfodol ac ati. Mae ef wedi nodi ei barodrwydd i wneud hynny.
O ran mewnblaniadau rhwyll drwy'r wain, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn a oedd gennych chi i'w ddweud. Yn amlwg, mae materion difrifol iawn i'w hystyried yn y fan hyn ar ddwy ochr y ddadl honno, ac rwy'n siŵr y bydd yn ystyried y rhai hynny pan fydd yn cyflwyno ei ddatganiad maes o law.
Yn olaf, David Rees.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y Tŷ, efallai eich bod chi'n ymwybodol—dylech chi fod yn ymwybodol—o'r pryderon ynghylch cynllun pensiwn Dur Prydain a'r cyngor y mae gweithwyr dur yn ei gael mewn gwirionedd, a'r ffaith bod rhai gweithwyr dur wedi colli arian, mewn gwirionedd, oherwydd cyngor gwael. Nawr, un o'r cwmnïau sydd wedi'i nodi yw Celtic Wealth Management, a gafodd arian gan Lywodraeth Cymru. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a seilwaith i drafod sut y maen nhw'n sicrhau bod yr arian y maen nhw'n ei fuddsoddi mewn cwmnïau fel hyn yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth, ac felly nad yw gweithwyr dur, sydd wedi treulio blynyddoedd lawer yn cronni eu potiau pensiwn, ar eu colled oherwydd cyngor gwael sy'n dod naill ai gan gwmnïau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru neu gan gwmnïau y maen nhw'n eu pasio ymlaen o ganlyniad?
Rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynghylch pensiynau gweithwyr dur, ac roedd rhai o'r straeon yn fy nychryn i yn fawr iawn. Nid oes gennyf syniad o'r—. Nid wyf wedi cael unrhyw gyfle i gadarnhau rhai o'r storïau, ond mae gennyf etholwyr sydd wedi'u heffeithio hefyd. Byddwn i'n hapus iawn i drefnu cyfarfod rhyngoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac unrhyw Aelodau eraill sydd â diddordeb etholaethol yn hyn, i ystyried y mater ymhellach.
Diolch i arweinydd y tŷ.