Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Wel, mae'r ymgynghoriad yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n siŵr bod atal llifogydd yn bwysig iawn ym mhob ardal o Gymru. Mae'n achosi niwed gwirioneddol drychinebus, ac wrth inni nesáu at y gaeaf mae angen inni fod yn barod mewn gwirionedd ar gyfer y gaeaf. Mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd i gymryd hyn o ddifrif. Os oes gan yr Aelod broblemau penodol o ran yr ymgynghoriad, rwy'n awgrymu ei fod yn ysgrifennu at noddwyr yr ymgynghoriad ac yn nodi'r materion penodol.