Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n siŵr y bydd llawer mwy o gyfleoedd i gwestiynnu'r cynllun ymhellach. Rwy'n fodlon cynnig sesiwn briffio ar y cynllun gweithredu economaidd i unrhyw Aelod yn y Siambr hon. Bydd gweithredu'r cynllun yn hanfodol bwysig a bydd hyn yn cael ei wneud wrth ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys busnesau ac undebau llafur, y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill. Ond rwy'n falch iawn bod y cynllun gweithredu hwn wedi'i gyhoeddi, yn dilyn cyhoeddi, wrth gwrs, y strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'.
Mae'r Aelod hefyd yn gofyn inni fyfyrio ar heriau economi Cymru. Rwy'n credu eu bod nhw wedi'u trafod yn helaeth, ond yr hyn sy'n glir, yn enwedig o gyfraniad yr Aelod ei hun, yw mai bwlch mewn cynhyrchiant rhyngom ni a'r DU, ac yn wir llawer o'r byd gorllewinol, yw ein prif bryder, ond hefyd yn yr un modd, y lefel o anghydraddoldeb.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mwy neu lai, mae'r economi wedi perfformio'n eithriadol o dda o ran twf swyddi ac o ran lleihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd, ond yr hyn sy'n eithaf amlwg yw nad yw manteision y twf economaidd wedi bod yn gyfartal ledled Cymru. Dyna pam yr ydym yn awyddus i ddilyn dull gweithredu sy'n seiliedig ar leoliad wrth ddatblygu'r economi, a dyna pam, yn ei dro, yr ydym ni'n awyddus i sicrhau bod ethos datblygu rhanbarthol yn rhan o bob peth yr ydym ni'n ei gynnig.
Ond ceir rhai mannau amlwg lle y gellid ymyrryd i wella cynhyrchiant economi Cymru. Rydym ni wedi eu harchwilio ac rydym wedi canfod, yn bennaf, y bydd gwella sylfaen sgiliau gweithwyr Cymru, gwella seilwaith Cymru, gwella'r arweinyddiaeth mewn busnesau, gwella sut yr ymestynnir arloesedd i bob rhan o economi Cymru a gwella arferion gwaith yn cyfrannu at wella cynhyrchiant. Mae'r rhain yn cyd-fynd â'r meysydd gweithredu a'r cynllun cyflogadwyedd, ac, wrth gwrs, y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae ein holl ymyraethau bellach wedi'u cynllunio i wella cynhyrchiant economi Cymru.
Nawr, fel yr wyf yn dweud, bydd y gweithredu yn hollbwysig, ac mae hwn yn gynllun ar gyfer yr hirdymor. Byddai'n hawdd mynd ar drywydd targedau, ond y broblem gyda nifer o dargedau yw eu bod yn hawdd eu cyflawni os byddwch chi'n dewis pethau gweddol rwydd. Bellach mae angen inni ymdrin â'r problemau strwythurol mawr yn economi Cymru, a dyna pam mae gennyf bob ffydd yn Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd er enghraifft, i ddarparu her allanol ac arbenigol, i allu monitro ein llwyddiant neu unrhyw fethiant i berfformio yn erbyn arferion gorau rhyngwladol. Rwyf hefyd yn ffyddiog y dylem ni farnu ein llwyddiant a chynnydd yn erbyn dangosyddion lles hefyd. Fy marn i yw bod llwyddiant yn digwydd ar ffurf syml iawn: ein bod yn gwella ac yn cynyddu lefel y lles a chyfoeth ledled Cymru, ac ar yr un pryd yn lleihau lefelau anghydraddoldeb ledled Cymru.
Nid yw hyn, o reidrwydd, yn ymwneud â gwario mwy o arian ar ein hymyraethau; mae'n ymwneud â sicrhau bod yr arian a wariwn ar draws y Llywodraeth, yn cyd-fynd yn well â'n blaenoriaethau, a dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn hanfodol inni gyflwyno 'Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol' cyn y cynllun gweithredu penodol hwn. Er nad yw'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ddyraniad penodol o adnoddau i gronfa dyfodol yr economi, gan y bydd sawl gronfa yn cael eu huno yn llythrennol, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y gronfa dyfodol yr economi newydd yn cael ei lansio ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, mae'r cynllun yn nodi y gellid buddsoddi oddeutu £630 miliwn yn ystod y degawd nesaf yn ôl i'r broses gyflawni, a gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr i'n gallu i gystadlu a'n lefelau cynhyrchiant.
Credaf fod y cydbwysedd o grantiau a chyllid ad-daladwy yr ydym yn ei gynnig ar hyn o bryd yn addas ar gyfer y cylch economaidd, a chredaf fod angen i ni allu addasu'n briodol i barhau i fod yn gystadleuol, ar unrhyw gyfnod o'r cylch economaidd. Ar hyn o bryd, mae ein cyfraddau allforio a'n buddsoddiadau tramor uniongyrchol i gyd yn iach. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod ein buddsoddiad yn y meysydd hynny sy'n sbarduno cynhyrchiant yn parhau yn iach ac yn briodol ar gyfer unrhyw gyfnod penodol.
O ran y sectorau, wel, mae sectorau yn yr ystyr traddodiadol eisoes yn cyfuno, a chredaf fod hyn wedi'i gydnabod hefyd gan Lywodraeth y DU yn strategaeth ddiwydiannol ddiweddar y DU. Mae'n anodd iawn penderfynu, er enghraifft, os yw technoleg ariannol yn gorwedd yn dwt yn yr un sector â digidol neu a yw'n gorwedd yn dwt yn y sector gwasanaethau cyllid a phroffesiynol. Y gwir amdani yw bod nifer o ddiwydiannau newydd y dyfodol yn gorgyffwrdd â'r sectorau presennol yr ydym ni'n eu gweithredu ac yn eu cefnogi, felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych tuag at y dyfodol, ac ein bod ni'n neidio at y dyfodol, yn hytrach na chael ein llusgo i'r dyfodol neu nad ydym yn dilyn eraill yn y ffordd newydd o gefnogi datblygiad busnes. Felly, yn fy marn i, ein sectorau thematig, gydag arbenigwyr a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i gefnogi twf y meysydd thematig newydd hynny mewn busnes, yw'r llwybr cywir i'w ddilyn.
O ran ein heconomi sylfaenol, fe wnaethom ni benderfynu mai'r pedwar maes penodol hwnnw o'r economi sylfaenol yw'r rhai mwyaf arwyddocaol oherwydd y nifer a gyflogir yn y sectorau penodol hynny, oherwydd nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi ym mhob rhanbarth yng Nghymru—y rhain, mewn sawl ffordd, yw sylfeini yr economi ym mhob cymuned yng Nghymru, yn enwedig yn yr economi wledig—ac fe wnaethom ni eu nodi nhw hefyd oherwydd eu bod nhw'n cynrychioli rhai o'r newidiadau cymdeithasol ac iechyd pwysicaf, hefyd, yn y blynyddoedd sydd i ddod, yn enwedig os ydych chi'n ystyried, er enghraifft, gofal a bwyd a manwerthu. Mae manwerthu yn un maes y byddwn yn rhoi pwyslais newydd arno, pwyslais wedi'i adnewyddu, o ran adeiladu lle, hefyd. Mae'r dull yr ydym yn ei weithredu yn yr economi sylfaenol felly, yn cyd-fynd yn dda iawn â'r cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, ynghylch y cynllun adfywio gwerth £100 miliwn a fydd yn ychwanegu llawer at y potensial i wella ansawdd lleoliadau ac, yn sgil hynny, y potensial manwerthu mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Fel y dywedais, bydd cyfle i ymgynghori ymhellach yn ystod y cam gweithredu. Credaf ei bod yn hanfodol i ni barhau i weithio mewn partneriaeth â busnesau ac undebau llafur a phartneriaid cymdeithasol eraill, fel yr ydym wedi'i wneud wrth lunio'r cynllun gweithredu economaidd. Ond cynllun ar gyfer yr hirdymor yw hwn. Mae hwn yn gynllun ar gyfer y ddau ddegawd nesaf neu fwy.