Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Mae rhai agweddau ar y cynllun gweithredu economaidd hwn sydd i'w croesawu—y pwyslais newydd ar yr economi sylfaenol a datgarboneiddio, er enghraifft. Ond, wrth gamu yn ôl ac edrych ar y strategaeth economaidd yn gyffredinol, rwy'n credu ei bod yn bwysig i'w meincnodi o'i chymharu â'r tri chynhwysyn allweddol yr ydym yn gwybod, o bob rhan o'r byd, sydd yn ffurfio strategaethau economaidd llwyddiannus. Mae angen i strategaeth ganfod beth sy'n ein dal ni yn ôl, mae angen iddi nodi gweithgareddau newydd yr ydym mewn sefyllfa arbennig o dda i'w datblygu, ac mae angen iddi adeiladu sefydliadau sydd â'r gallu cydlynol i sbarduno cydweithio o fewn ac ar draws sectorau. O'i chymharu â phob un o'r tri o'r meincnodau hynny, mae'n anodd gweld sut y mae'r strategaeth hon yn ein symud ymlaen. Yn wir, gellid dadlau, rwy'n credu ei bod yn mynd â ni gam yn ôl.
Gadewch i ni gymryd un ohonyn nhw, y mater hwnnw o: a ydym ni'n deall ein mantais gystadleuol unigryw, y meysydd hynny y gallwn eu tyfu a'u datblygu? Ar y gorau, mae'r strategaeth yma yn aneglur. Nid wyf yn credu bod y ffaith fod y Llywodraeth yn cael gwared ar y dull blaenoriaethu sectorau a fabwysiadwyd yn gyntaf yn 2009 am un llawer ehangach, yn ein hargyhoeddi. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch gyfeirio at eich erthygl yn y Western Mail sy'n dangos tystiolaeth fod gwasanaethau masnachadwy, gweithgynhyrchu gwerth uchel a'r categori hollgynhwysol 'galluogwyr' yn cynnig cyfleoedd arbennig i dyfu diwydiannau y dyfodol. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed: a ydych chi'n sôn yn y fan yna am dystiolaeth fyd-eang neu dystiolaeth sy'n benodol i Gymru? Oherwydd, mae'r sectorau, neu'r themâu eang yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn y fan yna, yn gyffredinol iawn. Fe allen nhw fod yn berthnasol i fwy neu lai unrhyw economi ddatblygedig yn y byd, ac rydym ni'n gwybod nad yw'r math honno o ymagwedd unffurf at ddatblygiad economaidd yn gweithio. Mae angen i chi ddeall mewn gwirionedd ble mae eich manteision cystadleuol.
Nawr, fe gawsom ni'r ymgais honno, rwy'n credu, gyda'r rhestr sectoraidd a oedd gennym yn flaenorol. Yn wir, roedd yn rhannol lwyddiannus. Rydych chi'n dweud mewn gwirionedd yn y cynllun gweithredu economaidd:
Ers 2009, ein dull fu cefnogi sectorau unigol, ac mae llawer ohonynt, fel y diwydiannau creadigol...wedi dod yn hanesion o lwyddiant mawr.
Cymaint o hanes o lwyddiant fel nad oes sôn am hynny eto yn y cynllun gweithredu economaidd. Roedd gwyddorau bywyd, eto, yn sector twf a oedd yn gonglfaen, fe'i nodwyd yn y strategaeth arloesi o dim ond tair blynedd yn ôl, ond mae wedi diflannu, ar wahân i gyfeiriad digyswllt i roi pwyslais newydd i'r ganolfan gwyddorau bywyd y tu ôl i ni yn y fan yma, sydd wedi bod yn hanner gwag ers i chi ei chreu.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at arloesi—derbyniol iawn fel thema, ond mae eich Llywodraeth chi yn gweithredu toriad o 78 y cant ar y gwariant ar arloesi y flwyddyn nesaf. Fe wnaethoch chi israddio'r swydd cyfarwyddwr arloesedd o fewn Llywodraeth Cymru. Rydych chi'n diddymu'r cyngor cynghorol ar arloesi ac rydych chi'n mynd i'w ddisodli gan is-bwyllgor o'r corff addysg drydyddol newydd, er bod ymchwil a ddyfynnwyd gan y fenter Creu Sbarc, yr ydych chi'n ei chefnogi, yn nodi nad yw 97 y cant o arloesi yng Nghymru yn digwydd ar feinciau labordai ein prifysgolion, mae'n digwydd ar feinciau gweithio ein busnesau.
Rwy'n credu mai dyna'r maes, Ysgrifennydd y Cabinet, lle mae'r strategaeth ar ei gwanaf, yn fy marn i: mae'n gynllun gweithredu â phum galwad i weithredu ond heb unrhyw esboniad ynghylch pwy fydd yn gweithredu. Pwy sy'n mynd i weithredu? Rydych chi'n diddymu'r 48 o baneli cynghori; mae'n fath o goelcerth fach o'r cwangos, unwaith eto. Rydych chi'n eu disodli gydag un bwrdd cynghori gweinidogol. Dydw i ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng hynny a'r cyngor adnewyddu'r economi. Efallai y gallwch chi egluro wrthym ni. Dim ond tri swyddog rhanbarthol ledled Cymru, ac o dan yr haen honno, ac eithrio'r banc datblygu, anialwch sefydliadol.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid y ffaith eu bod yn fach yw'r broblem sy'n wynebu busnesau bach mewn cenedl fach, ond bod yn unig, a gwaith y Llywodraeth yw adeiladu'r cyfalaf cymdeithasol hwnnw i greu'r math o sefydliadau economaidd sydd gan wledydd eraill: asiantaeth hyrwyddo masnach a buddsoddiad, mudiad siambr fasnach ar y model cyfandirol, corfforaethau datblygu rhanbarthol, corff arloesi cenedlaethol. Rydym ni'n wynebu'r hyn sy'n cyfateb i newid yn yr hinsawdd yn y maes economaidd, a heriau byd-eang enfawr o Brexit i awtomeiddio, ond rwy'n ofni, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ein gadael ni'n ddiymgeledd yng nghanol y storm honno.