Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Rwy'n credu bod Creu Sbarc, er ei bod yn fenter newydd, yn un sydd eisoes yn gwneud cynnydd mawr o ran dwyn ynghyd rhanddeiliaid o bob rhan o'r byd academaidd, cyllid a Llywodraeth, ac sy'n sicrhau bod y cydweithio yn ymestyn dros y tymor hir, ac yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau traddodiadol a seilos. Ond rwy'n credu hefyd os bydd yr Aelod yn edrych ar—tudalen 16 yn benodol, rwy'n credu—mae pwyslais penodol ar ddadgyfuno cydrannau o ymarferion caffael mawr er mwyn i ni allu bod o fwy o fudd i fentrau bach a chanolig. Mae'n gwbl hanfodol, fodd bynnag, bod microfusnesau a phobl sy'n hunangyflogedig yn cael cyfleoedd i gamu ar yr ysgol gaffael a thyfu o ganlyniad i hynny, ac rydym ni'n gweithio i sicrhau—gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud gan fy nghyd-Aelod Mark Drakeford—bod pobl sy'n hunangyflogedig a phobl sy'n gweithredu microfusnesau yn gallu manteisio ar bob cyfle i gaffael yn eu hardal leol. Mae llawer o waith y gellir ei wneud yn y misoedd nesaf i weithredu'r cynllun hwn, ond hefyd o ran cymryd mantais lawn o'r diwygiadau y gwnaeth Mark Drakeford fwrw ymlaen â nhw, a allai ac a ddylai fod o fudd i gwmnïau maint micro ledled Cymru. Rwy'n credu yn arbennig bod y cynlluniau treialu sydd ar waith yn ardal tasglu'r Cymoedd ynghylch swyddi gwell yn nes at y cartref yn cynnig templed ar gyfer y math hwn o gyfle gwell ledled Cymru, ac yn sicr rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r cynlluniau treialu hynny. Mae gennyf bob ffydd y byddan nhw'n llwyddiannus ac y bydda nhw'n ein galluogi i ymestyn yr un egwyddorion ar draws economi Cymru.