Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a'r ffaith ei fod yn gyffredinol yn croesawu’r cyhoeddiadau yr wyf wedi’u gwneud heddiw? Rydym ni'n ailystyried y strategaeth newydd, wrth gwrs, yn ystod cyfnod o newid technolegol aruthrol, newid o ran deddfwriaeth, newid o ran pwerau, a newid o ran sut y mae pobl yn cysylltu â'i gilydd ar draws Cymru ac ar draws y DU. Ond gallaf i sicrhau'r Aelod fy mod yn benderfynol na fydd unrhyw leihad yn y buddsoddiadau ar yr A40 na’r A55—i'r gwrthwyneb. Yn ddiweddar, cyhoeddais astudiaeth gwydnwch ynghylch yr olaf o'r cefnffyrdd hynny ac mae’r astudiaeth gwydnwch yn amlinellu ymyriadau dros y tymor byr, canolig a hir, os ydym ni am uwchraddio'r A55 a sicrhau ei bod yn dal i fod yn brif ffordd ar gyfer gogledd ein gwlad.
Rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol ein bod yn cysylltu Cymru gyfan yn well. Amlinellodd yr Aelod rai o'r rhaniadau sy’n effeithio ar y gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru ar hyn o bryd, ynghyd â rhai o'r heriau â thagfeydd sy'n effeithio ar lawer o gymunedau a llawer o gefnffyrdd ledled Cymru. Bwriad y rhaglen mannau cyfyng yw ymdrin nid yn unig â’r mannau cyfyng hysbys sy'n achosi tagfeydd sy'n effeithio ar ffyrdd, ond hefyd tagfeydd sy'n effeithio ar wasanaethau bysiau hefyd. Rwy’n meddwl mai un o'r ffactorau pwysicaf wrth i bobl benderfynu teithio ar y bws ai peidio yw pa un a ydyn nhw'n gwybod y gallan nhw deithio i’r lleoedd, y cyrchfannau a’r mannau ymadael dan sylw ac oddi yno mewn pryd ac ar wasanaeth dibynadwy a phrydlon. Felly, mae datrys tagfeydd yn gwbl hanfodol, ac mae'r rhaglen mannau cyfyng wedi'i chynllunio i wneud hynny.
Wrth gwrs, o ran problemau â’r rheilffyrdd, sydd wedi bod yn glir iawn yr wythnos hon, nid yw'n helpu bod Cymru yn hanesyddol wedi cael ei thanariannu mor wael o ran y seilwaith yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Er bod Trenau Arriva Cymru a Network Rail wedi ceisio gwneud eu gorau o ran sicrhau bod y traciau’n aros yn glir, nid yw'r problemau a wynebwn yn unigryw i Gymru, ac os yw hyn yn effeithio ar wasanaethau wrth iddynt groesi’r ffin, mae hynny’n effeithio ar ddibynadwyedd a phrydlondeb y teithiau pan fyddan nhw'n gadael Cymru neu’n cyrraedd yma. Felly, mae angen inni fuddsoddi nid yn unig yng Nghymru—mwy o fuddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru—ond ar draws ardal y gororau hefyd. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi gofyn amdano gan Lywodraeth y DU ers blynyddoedd lawer.
O ran gwasanaethau bysiau, maen nhw ar fin cael eu diwygio a bydd cynigion manwl yn cael eu cynnig yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf o ganlyniad i’r ymgynghoriadau sydd eisoes wedi digwydd a rhai sy’n dal i ddigwydd hefyd. O ran y rhwymedigaethau y mae'n rhaid eu bodloni erbyn 2020 o ran mynediad i bobl anabl, wel, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o orsafoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau y mae’n rhaid eu bodloni yn 2020. Rydym wedi darparu buddsoddiad ychwanegol fel rhan o'r rhaglen genedlaethol i wella hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd, ac, wrth gwrs, fel rhan o'r broses o gyflwyno rhaglen metro’r de-ddwyrain. Ond, yn ogystal â hynny, rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i'r rheini sy’n gwneud cais am y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf bod yn rhaid i’w rhwymedigaeth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig sefyll erbyn 2020, a bod yn rhaid i'r cerbydau fod wedi’u paratoi'n ddigonol â’r holl ddarpariaethau sydd eu hangen er mwyn bodloni’r gofynion hynny.
O ran y comisiynydd trafnidiaeth, cefais y pleser o gyfarfod ag ef yn ddiweddar, ac rwy’n meddwl y byddai'n deg dweud, yn hytrach nag amlinellu unrhyw gefnogaeth a allai fod ar ei ffordd gan Lywodraeth Cymru, mai ein safbwynt yw y byddwn ni'n ymateb i unrhyw geisiadau gan y Comisiynydd. Ond, yn sicr, os cawn ni unrhyw geisiadau am gymorth, byddaf yn eu hystyried â llawer iawn o gydymdeimlad.
Ac o ran mannau gwefru cerbydau trydan, o ganlyniad i'r fargen ar y gyllideb â Phlaid Cymru, rwy’n falch iawn o ddweud y bydd swm sylweddol o arian ar gael i ddarparu mannau gwefru ledled Cymru. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal gwaith i archwilio ble mae’r methiant mwyaf yn y farchnad. Hyd yn hyn, rydym ni wedi canfod bod darpariaeth mannau gwefru trydan ar hyd yr A55 a'r M4 yn ddigonol. Fodd bynnag, rhwng yr M4 a'r A55, ychydig iawn sydd, felly hoffem ddatrys y rhan gyfan honno i’r gogledd i'r M4 ac i'r de i'r A55, a sicrhau bod pobl yn gallu gyrru rhwng y gogledd a'r de ac ar draws y canolbarth heb boeni a fyddan nhw'n gallu defnyddio man gwefru cerbydau trydan. Rydym ni hefyd yn ystyried a ddylid eu gosod ar safleoedd fel henebion Cadw, lle mae profiadau i ymwelwyr ar gael, mewn ysbytai ac hefyd, Dirprwy Lywydd, ar safleoedd cyflogaeth mawr. Mae swyddogion yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn fy adran i ac hefyd o dan arweiniad Lesley Griffiths, ac rydym yn gobeithio dechrau gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn y 12 mis nesaf. Rydym yn benderfynol o sicrhau na wnaiff Cymru golli allan ar gymorth gan Lywodraeth y DU ychwaith, a dyna pam yr ydym wedi bod yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am adnoddau mannau gwefru cerbydau trydan, ond dyna hefyd pam yr ydym yn mynd i barhau i roi pwysau ar yr holl randdeiliaid yng Nghymru i groesawu technoleg cerbydau newydd ac i wneud yn siŵr bod ein seilwaith yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.